Darganfyddwch Castell y Plant
Ma rhywbeth i bawb o bob oed yn y Castell – holwch yn Siop y Castell am syniad o beth i wneud?

Y Castell i bobl bach
Ma’ digon o le i grwydro yn y Castell ond rhaid bod yn ofalus iawn gyda’r rhai lleia.
Yn y Tŷ mae sgriniau arbennig gyda chymeriadau addas i blant bach sy’n adrodd hanes y Castell yn syml.

Gerddi Chwarae
Dringo, llithro a chadw balans!
Ma’r lle chwarae wedi ei leoli ar waelod y safle – lawr heibio i Castle Green House – dilyn y llwybr lawr y rhiw ac yna ar y chwith ma’r lle chwarae. Ma llithren, gemau awyr agored, sialensau dringo a chadw balans a bwrdd picnic – digon i gadw pawb yn hapus.

Digwyddiadau i blant
Mae’r Castell yn aml yn cynnal digwyddiadau i blant.
Yn aml mae Ysgol i Farchogion yma a sioeau Mr Jon Jon , a sioeau theatr arbennig. Ewch i ‘Be’sy’ m’lan ‘ma ‘ i weld be sy’n y calendr.

Gwisgo lan
Hanner y sbort o ddod i’r Castell yw’r cyfle i wisgo lan.
Ma bocs gwisgoedd mawr yn Siop y Castell – beth am fod yn Frenin neu Frenhines am y dydd? (mae’n ok i’r oedolion wisgo lan hefyd os ma nhw moin!)

Stocs y Carchar
Blynyddoedd maith yn ôl os byddai rhywun yn torri’r gyfraith bydde nhw yn cael ei carcharu yn y stociau.
Defnyddiwyd y stociau i ddisgyblu bobl ddrwg am ddwyn neu feddwi, am gafflo neu regu!
Allwn ni dy roi di yn y stociau os wyt ti’n dymuno cael dy lun wedi ‘ dynnu – ond bydd rhaid cofio dy ollwng yn rhydd cyn i’r Castell gau am y dydd!

Adnoddau Ysgolion
Mae gan y Castell sawl adnodd i Ysgolion, i ddisgyblion o bob oed, ac i’w rhieni.
Cliciwch I weld be allwn ni gynnig yn y Castell ar gyfer tripiau Ysgol sy’n ymweld.
Lawrlwythwch taflenni gweithgaredd neu’n pecynau addysg.Mae’n bosib i ymweliad Ysgol ganolbwyntio ar agwedd benodol o hanes y Castell neu gyfnod, ochr yn ochr â gweithgareddau hwyl.

Gweithdai
Wyt ti’n ffansio cymryd rhan mewn gweithdy creadigol?
Cadw lygad ar y calendr digwyddiadau i weld pa weithdai fydd ar gael.
Atyniadau i blant
Chwilia be sy’ weld yn y Castell wrth glicio ar y map rhyngweithiol
Clicia ar y pinau i weld beth mae’r Castell yn cynnig.





















