
Blodau a Llysiau
Gerddi, Lawnt a'r Llysiau'n y Castell
Ma’ Gerddi’r Castell a’r lawnt yn cynnig amryw o lefydd hyfryd i eistedd ac ymlacio.
Cyfle i ddychmygu’r lle yng nghyfnod Sioraidd yn ei holl ogoniant. Cyfle i wylio’r plant yn chwarae, neu i ddarganfod math arbennig o blanhigyn prin!
Mae’r gofod i chi – yn hafan o dawelwch, gyda’r gerddi llysiau’n edrych allan dros y dref tua’r Teifi, a Sir Benfro tu hwnt i’r afon. Cyfle i ymgolli a chofio, am y Castell ac am yr amser a fu.









