
Lleoliad ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio
Lleoliad ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio
O gartref cyfnod ar gyfer drama, i leoliad cyfoes ar gyfer recordio cyfweliadau neu sioeau radio, mae gan Castell Aberteifi nifer o ofodau addas i’w defnyddio i lwyfannu cynyrchiadau, sy’n chwilio am gartref yng Ngorllewin Cymru.
Ma gan y Castell agwedd hyblyg at ofynion cynhyrchiad a chyllideb prosiect. Ma’r staff yn hapus i weithio yn agos gyda thîm cynhyrchu i newid y gofod i siwtio anghenion y prosiect. Mae’n bosib defnyddio maes parcio’r Castell ar gyfer parcio a lleoli’r criw ar gyfer dadlwytho cit , er mwyn sicrhau bod pob dim yn llyfn ar y set.
Ma’r ffioedd lleoliad i’w trafod ac yn ddibynnol ar ofynion y cynhyrchiad a’r effaith gaiff hynny ar fywyd dyddiol y Castell fel man i’r cyhoedd; os oes angen cau’r safle ar unrhyw adeg. Mae’r safle hefyd yn heneb ac mae parchu hynny’n ystyriaeth sylfaenol wrth ymateb i ddyheadau Cynhyrchiad.
Os yn ffilmio yn yr ardal neu yn Sir Benfro mae dewis eang o lety i gael ar gyfer criwiau – cysylltwch yn uniongyrchol gyda’r Castell i drafod opsiynau a phrisiau. Mae mwy o wybodaeth fan hyn.
Mae hefyd yn bosib defnyddio’r Castell a’r Casgliad ar gyfer ymchwil ac mae’r staff yn hapus i helpu. Mae mwy o wybodaeth am y Casgliad ar wefan Casgliad y Castell.
Mae’n bosib bwcio ar gyfer 2025 /26
Bwcio.

