
Beth sy’ ble?
Darganfod bob dim sy' 'da'r Castell i gynnig
Sgrolia drwy hanes y Castell gyda’r llinell amser rhyngweithiol islaw i ddeall bob dim sydd wedi digwydd i’r Castell a phryd digwyddodd hynny!













Cadair Fawr yr Eisteddfod
Ma’r gadair fawr naw-troedfedd o uchder yn gerflun gan Paul Clarke. Darn sy’n darlunio hebog, coron, cŵn hela, a thair cigfran fel sumbolau o arfbais yr Arglwydd Rhys, i ddathlu treftadaeth y safle.
Cadair Fawr yr Eisteddfod

Bwa’r Morfil
Ynghanol y 19G, rhoddwyd esgyrn gên Morfil i berchennnog Castle Green House yn anrheg oddi wrth Captain James Ellis, morwr lleol. Fe godwyd Bwa o’r ddau ddarn, addurniad poblogaidd yng ngerddi’r cyfnod.
Bwa’r Morfil

Yr Arglwydd Rhys
Cerflun o goeden ar ffurf Yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd. Crefftiwyd o goeden 220 oed – roedd yn rhaid ei thorri, y Dderwen-Dwrci. Mae’r cerflungan Simon Hedger o Gaerfyrddin yn dangos yr Arglwydd Rhys yn dal cleddyf a gwaywffon.
Yr Arglwydd Rhys

Wal y Tŷ Pinafal
Yn ystod y 19G adeiladwyd “Tŷ Gwydr – wedi ei wresogi” – Tŷ Poeth yn erbyn y wal, er mwyn tyfu ffrwythau ecsotig, gan gynnwys y Pinafal. Dathlwyd y Pinafal yn y cyfnod fel arwydd o gyfoeth. Datgymalwyd y Tŷ poeth yn ugeiniau’r ganrif ddiwetha gan ei fod yn rhy ddrud i’w wresogi.
Wal y Tŷ Pinafal

Cleddyf Heddwch
Yr ysybrydoliaeth ar gyfer y cerflun oedd y dywediad bod ‘y pin yn fwy effeithiol na’r gleddyf’ gan bwysleisio pwer geiriau yn hytrach na thrais. Saif y cerflun i anrhydeddu gweithred yr Arglwydd Rhys wrth sefydlu yr Eisteddfod yma’n y Castell yn 1176 a dathlu a gwobrwyo gwaith creadigol.
Cleddyf Heddwch

Bocs-Tŵr-Pil yr Ail Rhyfel Byd
Ym Mai 1940 yn ystod yr ail-rhyfel-byd adeiladodd y Gwarchodlu Cartref
Bocs-Tŵr-Pil concrid ar ban y Castell er mwyn rheoli’r bont garreg dros y Teifi. Roedd yr amgaer yma’n rhan bwysig o amddifyniad y wlad yn erbyn y gelyn.


Lawnt y Castell
Ma’r lawnt yn creu naws hudol i ymwelwyr. Dros gyfnod yn y 18G a’r 19G datblygwyd yr ardal hon o’r Castell i fod yn lawnt chwarae bowliau, ac yn ddiweddarach cwrt tennis. Credir fod olion Neuadd wreiddiol yr Arglywdd Rhys lle cynhaliwyd y ‘steddfod gynta yn nwfn o dan y lawnt.
Blodau a Llysiau

Yr Ardd Grôg
Pan roedd John Bowen yn berchen ar Castle Green House yn gynnar yn y 19G fe ddatblygodd sawl ardal o’r gerddi. Yn eu plith yr ardal lethrog yma. Y syniad o greu gardd grôg yw i gyfoethogi’r olygfa a chynnig dyfnder er mwyn arddangos pensaerniaeth.
Yr Ardd Grôg

Lle Chwarae’r Plant
Mae’r ardal chwarae i blant ar waelod safle’r Castell, yn cynnwys sleid, gemau awyr-agored, offer dringo a bwrdd picnic, ar gyfer ein ymwelwyr ifanc.
Castell i’r Plant

Y Gerddi Llysiau Rhagfrenhinol
Yn wreiddiol byddai’r Gerddi Sioraidd yma wedi cynhyrchu bwyd ar gyfer y gegin Castle Green House. Erbyn Heddiw mae’r cnwd sy’n tyfu yna’n cael ei weini ym mwyty’r Castell, 1176, gan adleywrchu tymhorau’r llysiau a’r ffrwythau.
Y Gerddi Llysiau Rhagfrenhinol

Castle Green House
Cychwynwyd adeiladu’r tŷ yn 1808 ar gyfer John Bowen, gan ddefnyddio seiliau’r Castell gwreiddiol a thŵr o’r 13G. Ymestynwyd y tŷ’n 1827 gan David Evans ar gyfer Uwch Siryf, Sir Aberteifi, Arthur Jones. Dynodwyd bod y tŷ yn gofrestredig ar raddfa II* yn 1961. Heddiw mae’n gartre’ i arddangosfeydd, digwyddiadau a pherfformiadau theatr.
The Castle Green House