
Blodau a Llysiau
Bocs-Tŵr-Pil yr Ail Ryfel Byd
Bocs-Tŵr-Pil yr Ail Ryfel Byd
Ym Mai 1940 yn ystod yr ail-ryfel-byd adeiladodd y Gwarchodlu Cartref Bocs-Tŵr-Pil concrid ar ben y Castell er mwyn rheoli’r bont garreg dros y Teifi. Roedd yr amgaer yma’n rhan bwysig o amddiffyniad y wlad yn erbyn y gelyn. Sefydlwyd rhwydwaith ohonynt ar hyd llinell y GHQ ar draws waelod Cymru, trwy Fryste draw i Lundain a thu hwnt. Roedd dros 28,000 ohonyn nhw wedi eu hadeiladu yn y cyfnod. Atal yr Almaen rhag ymosod oedd eu pwrpas.
Mae’r waliau concrid yn drwchus iawn ac yn gallu gwrthsefyll ymosodiad cryf. Mae’n debyg taw dim ond 6,500 sy’n dal i fodoli heddi.