Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Image: © Crown copyright (2019) Cymru Wales

Tref Aberteifi a’r Ardal

Llefydd i ymweld â nhw o fewn hanner awr i’r dre’

Os taw eisiau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir, gwylio dolffin yn y dwr yng Nghei Newydd, mynd mewn kayak yng Ngheibwr, syrffio’n Poppit, neu jest mwynhau prynhawn ar y tra’th , dy’w Aberteifi ddim yn bell o’r cyfan. Dyma’r lle ‘perffeth’ i gael gwyliau – dod i weld y Castell a mwynhau be sy’ gan Sir Benfro a Cheredigion i gynnig.   

Richard Thomas – ‘Dic y Fet’

Richard Thomas – ‘Dic y Fet’

  Gyda thristwch mawr iawn yr ydym yn nodi marwolaeth Richard Thomas, a adwaenid yn annwyl gan bawb fel ‘Dic… Read more

Archwiliwch Afon Teifi

Archwiliwch Afon Teifi

Mae Afon Teifi yn ddarn 73 milltir o hyd o afon sy’n ymdroelli trwy Geredigion o’i tharddiad yn Nhregaron, ym… Read more

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru

Archwiliwch Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru a Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi i syrthio mewn cariad â fflora a ffawna amrywiol Ceredigion…. Read more

Llwybrau Arfordirol Sir Benfro a Cheredigion

Taith i bawb

Cwta 122 o gamau ar draw y bont sy’n croesi’r afon Teifi – ma’ Sir Benfro, Sir sy’n enwog am ei llwybr arfordirol a’i Pharc Cenedlaethol.

Ma taith i bob math o berson a phrofiad, a’r cyfan wedi ei rannu i deithiau bychain, hawdd i’w cerdded os nad wyt ti’n gerddwr profiadol! Ma cerdded y llwybr yn bobolgaidd iawn gan bawb sy’n ymweld â’r Sir.

Mae llwybr arfordir Ceredigion yn 60 milltir o hyd, ac yn rhan o’r 870 milltir o lwybr yr arfordir ar hyd Cymru. Ar ei hyd ma’ golygfeydd amrywiol o fathau gwahanol o dirwedd. Rhwng Aberteifi ag Ynyslas ma’ clogwyni serth, traethau anhygoel,  a golygfeydd o’r  mynydd-dir. Os wyt ti’n lwcus fe weli di forloi ag ambell ddolffin.

Pa bynnag gyfeiriad aiff dy lwybr – gwisga’r sgidie a dillad addas a mwynha golygfeydd bendigedig arfordir Gorllewin Cymru.

Image: © Crown copyright (2020) Cymru Wales

Map Tref Aberteifi

Ma’r dre’n llawn hanes a phethe diddorol i wneud. Ma’r map yn dangos llefydd i barcio a rhai o’r  prif ardaloedd.

Lawrlwytha’r Map

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?