Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Castle Green House

‘Stafell y ‘Steddfod / Yr Arglwydd Rhys

‘Stafell y ‘Steddfod / Yr Arglwydd Rhys

Mae ‘stafell yr Eisteddfod yn ofod sy’n adlewyrchu hanes a diwylliant Cymru.

Mae’n dathlu cysyniad yr Eisteddfod fel prif ddigwyddiad diwylliannol Cymru. Gwledd o ganu,llenydda a pherfformio sy’n hannu o’r 12G.

Yma’n Nghastell Aberteifi ar ddydd Nadolig 1176 cynhaliwyd yr Eisteddfod Gadeiriol gyntaf gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd; a hynny i ddathlu cwblhau adeiladu’r Castell o gerrig.

Nod y ‘stafell yw dathlu’r berthynas rhwng y Castell a’r Eisteddfod, a’r modd mae’r digwyddiad wedi hyrwyddo’r iaith, diwylliant a Chymreictod. Bu’r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi yn 1976 ac mae’n dychwelyd i’r ardal fel Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn 2026.

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?