
Adnoddau Addysg
Ymweliadau Addysg
Mae amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol ac addysgol ar gael yng Nghastell Aberteifi.
Rydym yn medru darparu:
Ystafell ar gyfer y plant yn cynnwys byrddau a chadeiriau gyda lle i adael bagiau, cyflawni gweithgareddau ac i fwyta pecynnau cinio,
Taflenni gwaith a phensiliau lliwio,
Cwis y Castell gyda llwybrau tu fewn a thu allan,
Cyfle i drin a rhoi llaw ar ddarganfyddiadau archaeolegol,
Opsiwn o daith dywysedig (Cymraeg neu Saesneg),
Ardal chwarae i blant,
Cyfle i wisgo lan mewn gwisgoedd amrywiol.
Rhowch wybod os oes cyfnod o hanes arbennig yn berthnasol i’ch ymweliad. Mae’r teithiau o fewn waliau’r castell ac/neu Castle Green House ac mae’r tywyswyr yn barod i ganolbwyntio ar y canlynol:
Hanes y castell o 1110 hyd at heddiw,
Yr Arglwydd Rhys a’r Eisteddfod gyntaf,
Y cyfnodau Canoloesol, Sioraidd, neu Fictoraidd,
Y Rhyfel Cartref neu’r Ail Ryfel Byd,
Adfer Castell Aberteifi, Gerddi’r Castell, neu Archaeoleg yn y Castell.
Archebwch eich ymweliad drwy:
ebostio – info@cardigancastle.com
neu ffonio – 01239 615131

