Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

 

‘Steddfod Unnos 2025

Y Cerddi Buddugol

Diolch i’r beirdd am roi’r hawl i’w rhannu.

Y Beirniad

Y Prifardd Tudur Dylan

Enillydd y Gadair – Gruffudd Antur

CYWYDD – ‘LLINACH’

Llinach

Gynt roedd ywen yng Nghenarth

yn mynnu tyfu’n y tarth;

tyfodd tra llifai Teifi

yn ddwfn, ddwfn i’w gwreiddiau hi.

Mi wn mai’n union ’run modd

y safai â phan safodd

yn Nheifi iôr Dinefwr

ac yfed, yfed o’i dŵr.

Ni wn sawl hogyn annoeth

dan hon fu’n gwrido, yn noeth

fel yr hen ywen ei hun,

dod i oed, a mynd wedyn.

Ond gwn fod ein doeau i gyd

yn Nheifi; mi wn hefyd

fod ym mhren yr ywen rin

a pharhad anghyffredin,

a heno, gwn, fesul gair,

daw hen goedyn yn gadair.

 

 

 

 

Yn ail – Emyr Davies

HIR A THODDAID – i unrhyw grwp pop

Ail Symudiad

Yr un yw’r lle, y dre llond o droeon;

Yno awn ni, heb ei throi’n ganeuon;

Heibio’n dreifo heb glywed yr afon

Na sŵn chwibanu yr adar duon.

O leiaf o’r Red Leion ar brydie

Daw hwythe’r geirie’n llawn hiraeth gwirion.

Yn drydydd – Manon Wynn Davies

Englyn i Gastell Aberteifi ar achlysur 850 mlynedd ers ei adeiladu

 

Castell Aberteifi 

Yn rhad, rhoi addurniadau – anfon gwŷs:

Dewch ir llys â’ch lleisiau

i enw Rhys gael parhau

yn olion yr hen waliau.

 

 

Enillwyr Categoriau Eraill

 

Y Gwpled  – i’w arddangos yng Nghastell Aberteifi

– Steffan Phillips

Mae Rhys rhwng y muriau hyn…

whiliwch ym mhob cornelyn.

 

 

 

Englyn Ysgafn – ‘Cystadlu’ – Eurig Salisbury

Cystadlu

Dau fardd pig yn gweiddi gwarth – yn yr hwyl

        Yng ngwledd Rhys fun cyfarth:

    ‘Tin gnaf, a tin genau arth!

    ‘Ti yw hobbit Deheubarth!

TRIBAN yn cynnwys y gair ‘Arglwydd’ – Jo Heyde

Rhoes waddol ir Nadolig

â’i waliau bendigedig,

yr Arglwydd Rhys a dalodd saer 

iw gaer gael bod o gerrig. 

 

 

Pennill Telyn – Gwelais Roces / Rocyn o Gilgerran

– Eurig Salisbury

 

Gwelais roces o Gilgerran

Wrthin tanioi phedair injan

Cyn cynhyrchu clamp o gwmwl …

Sori, roced on in feddwl.

 

Uchafbwyntiau eraill

Nannw Maelor

Hir a thoddaid: i unrhyw grwp pop

 

The Beatles, ‘Now and Then’  

Er diflannu deryn du, distewi’r 

Hediad olaf a’i alar, daw eli; 

bob hyn a hyn, harmoni – sy’n atsain 

ei llef fel adain i’w holl faledi. 

 

Non Lewis

Triban yn cynnwys y gair ‘Arglwydd’

 

Triban: yn cynnwys y gair ‘Arglwydd’ 

 

Yng nghastell Aberteifi

fe chwifiwn ein baneri,

a dathlwn gyda’r Arglwydd hael

o gael dod at ein gili’.

 

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?