
Cefnogi’r Castell
Mae’r Castell angen eich cefnogaeth
Fel heneb ‘byw’ sy’ ag adeiladau cofrestredig ar ei dir ac sy’ o dan ofal Ymddiriedolaeth elusennol, mae Castell Aberteifi yn ddiolchgar o hyd am y gefnogaeth a’r gynhaliaeth mae’r cyhoedd yn rhoi. I’ bobol y dre’, pobol yr ardal, ymwelwyr o adre ac o bant,mae’r croeso o hyd yn un cynnes a chynhwysol.
Ma’ sawl ffordd allwch chi helpu’r Castell:
Wrth brynu tocyn mynediad os ydych yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth plis cymerwch y funud neu ddau mae’n gymryd i wneud. Dyw’ hyn ddim yn costio dim mwy i chi ond mae’r Castell fel elusen yn elwa o gefogaeth ariannol gan y llywodraweth ganobylog, ar bob tocyn a werthwyd.
Pam na ddewch chi’n Ffrind i’r Castell? Byddwch yn talu ychydig yn fwy ond mae buddiannau lu i’w cael yn ystod y flwyddyn.
Beth am gefnogi’r digwyddiadau, rydym yn llwyfannu sawl cyngerdd yn flynyddol yn ogystal â arddangosfeydd a pherfformiadau theatr awyr-agored. Edrych ar yr adran ‘Be’sy’ ‘mla’n ‘ ar y wefan am y newyddion diweddara.
D’wedwch wrth eich ffrindiau a’ch teuluoedd am y Castell a’u hannog i ymweld a’r safle.
Efallai bod darn o ddodrefn o’r cyfnod Sioraidd neu’r Rhagfrenin byddech yn ystyried ei roi i’r Castell i ychwanegu at y casgliad sydd yn bodoli eisioes gan sicrhau ei fod yn cael eu gadw’n ddiogel ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.
Mae’n bosib wrth gwrs, rhoi arian yn uniongyrchol neu falle byddech yn ystyried gadael swm i’r Castell yn eich hewyllys? Os hoffech drafod opsiynnau fel hyn plis holwch aelod o staff bydd yn parchu preifatrwydd y sgwrs.
Yn fwy na dim – y ffordd gorau i gefnogir’ Castell yw ei ddefnyddio a’i fwynhau; mae’n rhan o’ch treftadaeth, dim ond gofalu amdano ry’n ni.
Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod, tîm Castell Aberteifi.

