Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Image: Patrick Olner
Previous
Next

Darganfydda Hanes y Castell

Sgrolia drwy hanes y Castell gyda’r llinell amser rhyngweithiol islaw i ddeall bob dim sydd wedi digwydd i’r Castell a phryd digwyddodd hynny!

1093

Dyma’r cyfeiriad cynta at y Castell sefydlwyd gan Iarll Roger de Montgomery ar lannau’r Teifi. Mae’r cyfeiriad mwya tebyg at yr Hen Gastell oedd yn sefyll tua milltir i lawr at y mor. Deiliad cynta’r Castell presennol tua 1110 oedd Gilbert Fitz Richard de Clare.

1165

Yn gynnar yn Nhachwedd cipiodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd y Castell drwy ddefnyddio ystolion i ddringo’r waliau, ac yna ei ddistrywio. Symudodd ei Brif-lys yma’n 1171 gan gychwyn ail adeiladu’r Castell gyda cherrig – y tro cynta’ i hynny ddigwydd. Y gred yw taw dyma’r Castell cyntaf erioed i gael ei adeiladu o garreg gan Gymro. Deng mlynedd wedi iddo gychwyn – gorffennwyd y gwaith ac i ddathlu hynny cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr Eisteddfod gyntaf yma ar Ddydd Nadolig 1176.

1254

Wedi nifer o ymosodiadau heb lwyddiant a sawl cipiad llwyddiannus rhwng 1215 a 1245, derbyniodd y Tywysog Edward o Loegr Castell Aberteifi ar ddydd San Ffolant 1254. Pan ddoth yn Frenin cyhoeddodd taw Aberteifi oedd prif dref Sir Aberteifi, (Ceredigion heddi) yn 1279.

1428-29

Gwnaed newidiadau mawr a gwelliannau i Gastell Aberteifi dan berchnogaeth y Brenin Henry.

1644

Bu’r Castell dan warchae ac fe’i gipiwyd gan Seneddolion dan arweiniad Cadfridog Laugharne. Yn 1645 roedd y Castell dan warchae i’r Brenhinwyr, a bron iddyn nhw ddymchwel y bont dros y Teifi. Trechwyd y Brenhinwyr ond gadawyd y Castell wedi ei losgi a’i ddifrodi.

1808

Adeiladwyd Tŷ Castle Green ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach yn 1827.

 

1984

Dyfarnwyd bod Castle Green House an anghymwys ar gyfer pobl i fyw ynddo. Symudodd Miss Wood allan i fyw mewn carafan fechan yn y gerddi, cyn gadael y Castell am y tro olaf ym 1999 pan symudodd i Gartre Nyrsio preswyl lleol.

2001

Y papur lleol, The Tivy-Side Advertiser, yn cychwyn ymgyrch “Achub y Castell”. Prynwyd y Castell gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2003.

2011

Derbyniodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Cadwgan grantiau oddi wrth ariannwyr i ddatblygu ag achub y Castell. Yn eu mysg  roedd yr HLF, Cronfa treftadaeth y loteri ag ERDF, arian o Gronfa Ddatblygu Ardaloedd Di-freintiedig Ewrop drwy law’r llywodraeth. Fel rhan o’r datblygiad ychwanegwyd bwyty 1176, a llety yn y tai ag Adain Ddwyreiniol Castle Green House ar y safle, a’i lansio fel gofod i gynnal digwyddiadau.

 

2015

Agorwyd drysau’r Castell i’r cyhoedd fel atyniad treftadol yn 2015 wedi’r gwaith adfywio ac ailadeiladu helaeth. Roedd adfer y Castell yn brosiect mawr denodd gefnogaeth gan ariannwyr a grantiau amrywiol i gyfanswm o dros 12 miliwn o bunoedd.

Enillodd y gwaith sawl gwobr ac mae’n amlwg bod y safle a diogelu treftadaeth y Castell ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol wedi ei gyflawni fel nod.

Aerial view of Cardigan Castle by the river Teifi, showcasing historical architecture and lush surroundings.
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot
timeline dot

Y Delyn

Darganfyddwch ein llety Gwely a Brecwast Treftadaeth moethus a llety Hunanarlwyo. Mae ystafelloedd teulu, ystafelloedd dwbl, fflatiau a bythynnod yn cynnig opsiwn ar gyfer pob dewis.

“”Anhygoel dweud. Mae’r ystafelloedd yn gyfforddus gyda chyfleusterau modern wrth gadw eu cymeriad. Mae’r lleoliad yn anhygoel a’r afon y tu allan. Mae’r lle yn wirioneddol anhygoel ac mae’r brecwast yn wych.”

Richard

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?