Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Vintage-inspired wallpaper design featuring birds on blooming branches, perfect for elegant interiors at Cardigan Castle

Castle Green House

‘Stafell yr Aderyn Glas

‘Stafell yr Aderyn Glas

Mae’r ‘stafell wely Sioraidd yma’n gartref i nifer o ddarnau a chelfi o gasgliad gwreiddiol y Castell a thŷ Castle Green House.

Yn ystod y ddwy ganrif ddiwetha’ byddai’r stafell wedi ei gwisgo gyda phapur wal arbennig, ac mi fyddai’r ffenestri a’r gwaith pren sydd ynddi wedi eu addurno gyda phapur-arian, oedd yn ffasiynnol iawn bryd hynny. Nid yw’r papur wal sydd yma heddiw’n hen – ail-weithiad o ddarnau bychain ganfuwyd tra’n adnewyddu’r tŷ , defnyddiwyd fel patrwm i ail-greu’r ddelwedd a’r naws.

Mae’r Castell wedi bod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i rai celfi werthwyd yn yr ocsiwn yn y nawdegau hwyr – fel y gadair ‘chaperone’ a’r sofa settee. Roedd y ddau gelficyn wedi eu strywio gan y glaw yn dod drwy’r to, ond yn ffodus fe’i hadferwyd yn ofalus gan y prynwr.

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?