
Priodas
Priodas
Lle mae rhamant, hanes, awyrgylch a cheinder yn creu diwrnod i’w gofio.
Mae’r Castell yn cyplysu canrifoedd o hanes gyda golygfeydd i ryfeddu ag ymgolli ynddynt. Mae cyplau’n medru dewis o amrywiaeth o leoliadau anhygoel i briodi, o gadernid Castle Green House i’r gerddi godidog neu’r lawnt dan gysgod y dail – a’r cyfan yn edrych draw dros y Teifi.
Mae unigrywedd y safle rhamantus yn cynnig ardaloedd agos-atoch ar gyfer priodas fach neu ofod mwy i briodas lle mae’r nifer o westeion yn hwy.
D’oes dim unman yn debyg i’r Castell i briodi ynddo.
Mae bwcio a threfnu’r briodas yn ddilyniant naturiol o benderfyniadau – gyda chefnogaeth staff y Castell a’n harlwywyr sy’ mor brofiadol yn y maes. Gallwn eich cynghori ar bob agwedd – ond y peth pwysica i ni yw eich bod chi’ch dau yn profi diwrnod i’w gofio yn unol â’ch dymuniadau.
Mae’n bosib i 28 o’r parti priodas aros yn yr amrywiol gartrefi treftdaeth a thai moethus sy’ gan y Castell i’w gynnig, a phrofi gwir rhamant y lle a’r naws arbennig mae’n gynnig.
Cysylltwch i drafod ac i ymweld â’r safle

