Wyt ti’n hoff iawn o hanes Cymru? neu’n ymddiddori mewn hanes lleol? Dyma shwt fedri di helpu’r Castell.
Ar hyn o bryd d'oes dim swyddi i'w llenwi 'ma.
Mae'r Castell yn croesawu gwirfoddolwyr o hyd. Ma' timoedd o Arddwyr, Ymchwilwyr, Tywyswyr a phobl sy'n helpu mewn digwyddiadau yn bodoli ac yn rhan bwysig o fywyd y Castell.
Elusen Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Cadwgan sy'n gyfrifol am y Castell.
Os taw hanes sy'n mynd â dy sylw, ma tîm arbennig yn y Castell dan arweiniad ein hanesydd Glen Johnson.
Ma sawl ffordd i gefnogi'r Castell. Mae modd ewyllysio neu gynnig rhodd ariannol neu wrthrych i'r Castell drwy law'r Ymddiriedolaeth.
First Name Enw Cyntaf
Last Name Cyfenw
Email address: E-Bost:
I have read and agree to the terms & conditions Dwi’n derbyn yr amodau a’r termau