
Castle Green House
Porthladd Aberteifi
Porthladd Aberteifi
Aberteifi oedd y Porthladd ail fwyaf yng Nghymru ar un adeg.
Roedd Aberteifi’n fwrlwm o fasnachu yn y canol oeseodd, yn elwa o’i leoliad cysgodol i fewn o’r aber lle mae’r Teifi’n cwrdd â’r môr. Roedd yn cysylltu Cymru ag Iwerddon, a sianel Bristol a thu hwnt. Yn hwyr yn y 18G ac i fewn i’r 19G roedd porthladd Aberteifi yn mwynhau cyfnod llewyrchus. Allforiwyd llechen Cilgerran a chynnyrch amaethyddol yn ogystal â glo. Mewnforiwyd gwinoedd,halen ag eitemau moethus nad oedd modd eu cael yng Nghymru.
Roedd yn adnabyddus ac yn enwog hefyd fel lle i adeiladu llongau, yn enwedig Schooners a Brigs, llongau cyrchu a chario oedd yn angenrheidiol i fasnach a chludiant yn y cyfnod. Roedd gweithdai adeiladu llongau ar hyd glannau’r afon, ac fe gyflogwyd gweithlu o longseiri a chrefftwyr arbennig i’w hadeiladu.
Felly pam ddiflanodd y diwydiant?
Ynghanol y 19G pylodd yr adeiladu yn araf gan fod y mathau o longau oedd eu hangen yn rhy fawr ar gyfer yr afon, a’r silt cynyddol ar ei gwaelod yn ei gwneud hi’n anodd llywio’r llongau hyd at y cei. Roedd datblygiad cyflym porthladdoedd Casnewydd ac Abertawe hefyd yn gnoc gan ei bod yn elwa o rwydwaith y rheilffordd, yn enwedig wrth i’r pyllau glo gynyddu’r allbwn.
Roedd un llong benodol o bwys mawr i’r ardal sef Yr Albion. Brig oedd hon fu’n greiddiol i greu traffig o bobl yn ymadael â Chymru i fynd i fywyd newydd yn New Brunswick yng Nghanada. Roedd yn llong 66 tunnell ac ym mis Ebrill 1819 gadawodd y Cei yn Aberteifi yn llawn llechi o gware Cilgerran a 180 o ymfudwyr ar ei bwrdd. Roedd torf enfawr wedi ymgasglu i ffarwelio â nhw ar daith byddai’n cymryd 61 niwrnod dros foroedd cythryblus.