Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Elderly woman enjoying a scenic view near Cardigan Castle, Wales, in black and white photograph

Castle Green House

‘Stafell Miss Wood

‘Stafell Miss Wood

Corwynt o gymeriad, mewn sgarff a lipstic coch!

Barbara Wood oedd perchennog preifat ola’ r Castell. Bu’n byw yna am bron i chwe deg mlynedd. Yn 1940, prynodd y Castell, a symud i fyw yna gyda’i mam. Arhosodd ei thad yn Hertfordshire yn gwneud gwaith ar gyfer y Rhyfel a bu farw cyn diwedd yr ymladd.

Dros amser gwelwyd dirywiad yn y Castell wrth i’r arian grebachu, ac erbyn 1984, wedi deng mlynedd o fyw ar ben ei hun ers colli ei mam, dyfarnwyd bod Castle Green House an anaddas ar gyfer byw ynddo. Er y sefyllfa mi arhosodd Barbara Wood ar y safle gan symud gyda’i chathod i garafan dau wely oedd wedi ei barcio wrth ddrws y tŷ. Yn 1999 â’i iechyd yn dirywio symudodd i gartre nyrsio cyfagos.

Gwerthwyd y Castell a’i adeiladau i Gyngor Sir Ceredigion yn 2003, ac fe’u rhoddwyd ar les i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan sydd wedi llwyddo i’w adfer.

Bu farw Miss Wood yn 2009.

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?