Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Vibrant pink flowers framing the historical Cardigan Castle in a lush garden setting

Blodau a Llysiau

Y Berllan

Y Berllan

Tu mewn i furiau’ Castell mae nifer helaeth o goed – mae rhai yn hynafol iawn ac yn creu canopi dros y cyfan.

Mae Sycamorwydden, Onnen ag un goeden fawr o’r Amerig – y ‘Redwood’, ynghanol y lawnt – a nifer fawr o goed Celyn amrywiol ar hyd y borderi. Yn yr ardd yng nghefn y tŵr mae coeden Bysedd y Cŵn. (Paulownia tomentosa), fe’i hadnabyddir fel coeden y Dywysoges ac mae’n wreiddiol o Tseina. Mae ganddi flodau siap trwmped fioled ysgafn a dail enfawr siap calon sy’ hyd at 30cm o led.

Heibio i hynny dewch o hyd i’r Berllan fach.

Tu cefn i’r tai sy’n wynebu’r Stryd Fawr mae berllan fach dawel. Ynddi mae nifer o goed gyda’i hafalau’n hongian yn llwythog ar y gangen. Ma’ nifer o’r mathau o afal yn hannu o Abaty Llandudoch.

Os taw chwilio am le tawel i eistedd yw eich dewis – ewch i’r berllan fach – lle llonyddwch.

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?