
Castle Green House
Cegin Sioraidd
Cegin Sioraidd
Byddai’r teuluoedd oedd yn byw’n Castle Green House yn ystod y cyfnod Sioraidd wedi dilyn arferion bwyta teuluoedd cyfoethog y cyfnod.
Byddai’r prydoedd wedi cynnwys amrywiaeth o gynnyrch lleol, cigoedd a bwyd wedi ei fewnforio oedd yn adleisio eu statws yn y gymuned. Byddai cig eidon, porc, a mwtwn wedi bod yn amlwg yn y gegin yn ogystal â chwningen a ffesantod. Byddai nifer o rhain wedi eu pesgu ar ffermydd yr ystad. Byddai ffowlyn, hwyaid a cholomennod wedi cael eu bwyta, a physgod o’r Teifi a chimychiad o Fae Ceredigion
O ran llysiau a ffrwythau – yr ardd fawr tu cefn i’r tŷ byddai’n cyflenwi rheiny yn eu tymor, tato, panas, maip a chabaets fel bwydydd cyson ar y bwrdd, ond weithiau byddai’r garddwr yn tyfu rhai mwy ffansi fel merllys ag artisiog.
Byddai cynnyrch o’r llaeth-dŷ eto wedi dod o’r ffermydd ar y stad, menyn, llaeth, hufen ag amryw mathau o gaws.
Byddai afalau, gellyg, eirin a ffrwythau fel mafon a gwsberis yn tyfu’n yr ardd. Byddent yn mewnforio orennau a lemwn yn ogystal â choffi, te, siwgwr, a siocled. Byddai sbeis fel sinamon, pupur a nytmeg hefyd yn ddrud ac yn werthfawr.
Roedd prydau bwyd yn enwedig os yn croesawu gwesteion i’r Tŷ yn rhywbeth gydag amryw o gyrsiau yn cael eu gweini gan weision a morwynion Castle Green House. Roedd teuluoedd Sioraidd yn falch iawn o’u bwyd a phethe moethus yn enwedig felly’r Pinafal – dyfodd i fod yn sumbol o statws a chyfoeth cartref, yn y cyfnod.