Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Gwirfoddoli ‘ma

Mae’r Castell eich angen!

Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr yng Nghastell Aberteifi, gan helpu i ddiogelu a rhannu ei hanes, wrth fwynhau a chreu atgofion eich hun ar hyd y ffordd, Mae Castell Aberteifi yn symbol o ganrifoedd o hanes cyfoethog, gerddi anhygoel ac yn le i ddod i ddigwyddiadau bywiog. Er mwyn cadw’r ysbryd yn fyw mae angen unigolion angerddol arnom ni – unigolion fel chi – i helpu mewn amryw ffyrdd.

P’un ai eich bod â diddordeb cynorthwyo yn y digwyddiadau a chyngherddau mawr dros yr Haf, neu’n hoffi garddio, neu a chwant ymchwilio i’r hanes, bydd eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ymdrech o amddiffyn y safle unigryw hwn ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Dewch i Wirfoddoli

Gwirfoddolwch yn y Castell  a byddwch yn rhan o’r cyffro! Drwy fod yn rhan o wireddu a llwyfannu dathliadau diwylliannol neu brosiectau addysgol, cewch gyfle i gysylltu ‘da phobl o bob oed a chefndir.

Pam na wnewch chi ymuno gyda Mark a’i griw yn y Gerddi? a chael y cyfle i drochi dwylo wrth dendio’r borderi, neu blannu a chynaeafu’r cnwd o’r gerddi llysiau tu nôl i’r plasty Sioraidd?

Os taw hanes sy’n mynd a’ch bryd pam na wnewch chi ymuno gyda Glen a’i griw brwdfrydig sy’n gweithio’n y ‘stafell ymchwil?  ymgollwch ym myd ymchwil hanesyddol, i’n helpu ni i ddarganfod mwy am hanes unigryw’r Castell.

Beth bynnag eich dileit, eich cefndir  neu’ch arbenigedd -‘ma na le i chi yn y Castell.

Gyda’n gilydd allwn ni barhau i ddiogelu’r etifeddiaeth mae’r Castell yn ei gynnig yn ddyddiol, gan sicrhau ei fod yn parhau fel safle pwysig a deinamig i’r gymuned.

Beth am gynnig i wirfoddoli heddi? a bod yn rhan o rhywbeth hollol arbennig!

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?