
Blodau a Llysiau
Bwa’r Morfil
Bwa’r Morfil
Ynghanol y 19G, rhoddwyd esgyrn gên Morfil i berchennog Castle Green House yn anrheg oddi wrth Captain James Ellis, morwr lleol.
Fe godwyd Bwa o’r ddau ddarn, addurniad poblogaidd yng ngerddi’r cyfnod.
Maent yn sumbolau o hanes morwrol y dre’ a pherthynas y Castell gyda’r gymuned. Y gred yw eu bod bron yn 5 medr o hyd pan gyflwynwyd y ddau ond mae effaith tywydd wedi eu lleihau.
Fe welir Bwau tebyg ymysg cymunedau arfordirol sydd eisiau cofnodi hanes pysgota’r morfil, sustemau eco-forwrol ac ymdrechion cadwraeth cymunedau.