
Blodau a Llysiau
Cleddyf Heddwch
Cleddyf Heddwch
Yr ysybrydoliaeth ar gyfer y cerflun oedd y dywediad bod ‘y pin yn fwy effeithiol na’r gleddyf’ gan bwysleisio pwer geiriau yn hytrach na thrais.
Saif y cerflun i anrhydeddu gweithred yr Arglwydd Rhys wrth sefydlu yr Eisteddfod yma’n y Castell yn 1176 a dathlu a gwobrwyo gwaith creadigol. Crewyd y cerflun gan Ben Dearnely ac fe’i noddwyd gan Gronfa’r Ashley Family Foundation.
Comisiynwyd dwy gerdd – un gan y Prifardd Ceri Wyn Jones a’r llall gan Gyn – Fardd Cenedlaethol Cymru – Gillian Clarke. Mae’r cerflun yn cynnwys darn o “Arwyr” a “The Thrush”.