
Pethe i weld…
Explore the Castle
Ma nifer fawr o atyniadau yn y Castell – defnyddia’r map rhyngweithiol islaw i chwilio
Mae’r Castell a’r rhan helaeth ohono yn hygyrch i bawb. Mae’n heneb ac felly mae rhai o’r ardaloedd yn anodd neu’n amhosib mynd atynt oherwydd cyfyngederau iechyd a diogelwch. Mae Castle Green House yn hawdd i bawb fwynhau, ac mae lifft i fyny i’r ‘stafelloedd ar y llawr cynta’.
Mae mynediad i fwyty 1176 drwy Siop y Castell i rheiny sy’n well ganddynt beidio defnyddio grisiau, yn ystod oriau agor y Castell.
‘Stafell Ddianc
Wyt ti a dy griw yn medru datrys dirgelwch y Perlau Coll?
Cyfle i deithio fel tîm i gyfnod arall yn hanes y Castell a Castle Green House yn benodol, wrth i chi gael eich herio i ateb cwestiynau a phosau fydd yn profi pwy yw’r lleidr!
Ma’ perchennog Castle Green House, Mr Davies, yn mynd i gynnal swper crand i rai o foneddigion yr ardal. Mae’n fore cyn y Swper a mae Mrs Davies, ei wraig, newydd ddarganfod fod ei pherlau drudfawr ar goll, ac wedi eu dwyn!
Ma’ Mr Davies is gynddeiriog, ac yn gwrthod i chi a’ch criw ymadael â’r Castell tan i chi brofi nad chi sy’n euog, a’ch bod yn dod o hyd i’r lleidr. Mae’r cliwiau am y bobl allai fod yn lladron wedi eu cuddio’n ‘Stafell yr Enfys – y ‘Stafell ddianc. Drwy weithio gyda’ch gilydd rhaid i chi ddod o hyd i’r rhai sy’n ddi-euog, a chanfod lleidr Castle Green House, cyn i’r heddlu gyrraedd!
O ie. Dim ond awr sy’ ‘da chi!

Taith o gwmpas y Castell
Bwcio Tywysydd i deithio nôl mewn hanes
Ma’ bwcio Tywysydd personol i fynd ar daith o gwmpas y Castell yn gyfle unigryw i ddeall mwy am yr hanes a’r straeon. Ma’r teithiau’n arwain drwy 900 mlynedd o hanes. Ma’r daith yn edrych ar y Castell o’i ddyddiau cynnar Normanaidd hyd at y cyfnod o gyfrannu i ddiwylliant Cymru ac ymlaen i’r cyfnod o’i adferiad, ac i’r Castell sydd i’w fwynhau heddi.
Bydd y daith yn cynnwys gweld muriau’r Castell canoloesol, cerdded drwy’r gerddi ag ymweliad â Castle Green House – a’r cyfan yn swn stori’r Castell.
Mae’n bosib bwcio taith ar gyfer grwp o bobl, ysgolion neu fel unigolyn. Ma’r Tywyswyr wedi’u trwytho yn hanesion difyr a bywyd y Castell.
Os nad yw cael eich tywys yn apelio, rhwydd hynt i chi chwilota drwy’r safle.
Ma bwcio taith o flaen llaw yn angenrheidiol, gan nodi ym mha iaith i gynnal y daith.


Clybiau a Chymdeithasau sy’n Cwrdd yn y Castell
Mae nifer o glybiau,cymdeithasau a gwasanaethau i’r gymuned yn defnyddio’r Castell fel lleoliad, neu’n cyfarfod yn Tŷ Cadwgan ar y Stryd Fawr i gynnal eu gweithgaredd, ac yn mwynhau’r gerddi hyfryd, a’r gofod llawn hanes.
Mae Haneswyr lleol yn darganfod hanes y Castell a’r fro, a gweithdai ac arddangosfeydd yn aml yn cael eu cynnal ar y safle,l wedi eu hysbrydoli gan y cefnlen arbennig. Mae’r Castell yn ogystal yn leoliad ar gyfer lansio cyfrolau a digwyddiadau llenyddol, ble mae awduron, beirdd a darllenwyr yn dod at eu gilydd i ddathlu llenyddiaeth Cymraeg a chreadigrwydd.
Yn ychwanegol mae Castell Aberteifi yn llwyfan arbennig ar gyfer amrwyiaeth o berfformiadau cerddorol; opera, cyngherddau clasurol neu fandiau. Mae gerddi’r Castell yn fan hyfryd i berfformio.
Gyda cyn gymaint o wahanol mathau o grwpiau o bobl yn cyfarfod yma a digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yn y gofod, mae’r Castell yn chwarae rol ganolog wrth gyfoethogi bywyd diwylliannol y dref a’r ardal o’i chwmpas.














