
Ymchwil
Ymchwil yn y Castell
Mae nifer o ffyrdd a chyfleoedd i gymryd rhan yng ngwaith ymchwil y Castell. Ydych chi wedi ymweld â gwefan ‘Casgliad y Castell’ ? ma’en bosib gweld y meysydd dan sylw a chyfoeth yr hyn sydd eisioes yn rhan o’r casgliad.
Mae tîm eang o wirfoddolwyr ymchwil sy’n dod draw i’r Castell bob wythnos, pobol o amrywikol gefndiroedd ag oed sy’n gweithio ochr yn ochr â’n hanesydd Glen Johnson.
Ma’r ymchwilwyr yn ymchwilio,sganio, digido a ffeilio’r cynnwys ,ac yn barod I helpu aelodau’r cyhoedd yn ôl y galw. Os yn bosib gofynnwn i ymwelwyr roi gwybod o fallen llaw a holi eu cwestiynnau neu nodi’r pwnc ma’ ganddynt ddiddordeb ynddo cyn dod i’r Castell. Ebostiwch info@cardigancastle.com.
Ma criw Hanes Teuluoedd Dyfed yn cyfarfod yn gyson yn y Castell, ac ma’ nhw’n gymorth mawr wrth hel achau a chwilio am hanes teuluoedd ac unigolion o’r ardal. Ma’ grwp Aberteifi yn cyfarfod yn Ystafell y Tŵr yn y Castell ar nos lun gynta’r mis am 7.30 yh (dewch i fewn drwy’r gatiau wrth 1176). Cysylltwch â Ken James – ei hysgrifennydd ar ebost – cardigansecretary@dyfedfhs.org.uk (neu ffôn: 01239 710829).

