Image: © Crown copyright (2019) Cymru WalesTref Aberteifi a’r Ardal
Llefydd i ymweld â nhw o fewn hanner awr i’r dre’
Os taw eisiau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir, gwylio dolffin yn y dwr yng Nghei Newydd, mynd mewn kayak yng Ngheibwr, syrffio’n Poppit, neu jest mwynhau prynhawn ar y tra’th , dy’w Aberteifi ddim yn bell o’r cyfan. Dyma’r lle ‘perffeth’ i gael gwyliau – dod i weld y Castell a mwynhau be sy’ gan Sir Benfro a Cheredigion i gynnig.
Richard Thomas – ‘Dic y Fet’
Gyda thristwch mawr iawn yr ydym yn nodi marwolaeth Richard Thomas, a adwaenid yn annwyl gan bawb fel ‘Dic… Read more
Archwiliwch Afon Teifi
Mae Afon Teifi yn ddarn 73 milltir o hyd o afon sy’n ymdroelli trwy Geredigion o’i tharddiad yn Nhregaron, ym… Read more
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru
Archwiliwch Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru a Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi i syrthio mewn cariad â fflora a ffawna amrywiol Ceredigion…. Read more
Aberteifi, Ceredigion and Sir Benfro
Mae arfordir Ceredigion i’r gogledd o Aberteifi wedi’i fritho gan bentrefi bach fel Aberporth,Llangrannog, a Chei Newydd. Ma’ dwy dre harbwr, Aberaeron ag Aberystwyth yn cynnig amrwyiaeth eang o atyniadau a phrofiadau ar gyfer ymwelwyr. I’r de o Aberteifi o groesi’r afon i Sir Benfro dy’w Trefdraeth (neu Ti’drath), Abergwaun a dinas Tŷ Ddewi ddim mwy nag awr o daith.
Llwybrau Arfordirol Sir Benfro a Cheredigion
Taith i bawb
Cwta 122 o gamau ar draw y bont sy’n croesi’r afon Teifi – ma’ Sir Benfro, Sir sy’n enwog am ei llwybr arfordirol a’i Pharc Cenedlaethol.
Ma taith i bob math o berson a phrofiad, a’r cyfan wedi ei rannu i deithiau bychain, hawdd i’w cerdded os nad wyt ti’n gerddwr profiadol! Ma cerdded y llwybr yn bobolgaidd iawn gan bawb sy’n ymweld â’r Sir.
Mae llwybr arfordir Ceredigion yn 60 milltir o hyd, ac yn rhan o’r 870 milltir o lwybr yr arfordir ar hyd Cymru. Ar ei hyd ma’ golygfeydd amrywiol o fathau gwahanol o dirwedd. Rhwng Aberteifi ag Ynyslas ma’ clogwyni serth, traethau anhygoel, a golygfeydd o’r mynydd-dir. Os wyt ti’n lwcus fe weli di forloi ag ambell ddolffin.
Pa bynnag gyfeiriad aiff dy lwybr – gwisga’r sgidie a dillad addas a mwynha golygfeydd bendigedig arfordir Gorllewin Cymru.
Image: © Crown copyright (2020) Cymru WalesMap Tref Aberteifi
Ma’r dre’n llawn hanes a phethe diddorol i wneud. Ma’r map yn dangos llefydd i barcio a rhai o’r prif ardaloedd.
