Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Ar achlysur Agoriad y Castell

Richard Thomas – ‘Dic y Fet’

 

Gyda thristwch mawr iawn yr ydym yn nodi marwolaeth Richard Thomas, a adwaenid yn annwyl gan bawb fel ‘Dic y Fet’, un o ymddiriedolwyr sefydlol Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan ac un o’r ffigurau mwyaf annwyl yn hanes adfer Castell Aberteifi.

Roedd Richard yn un o griw bychan o leisiau lleol angerddol a gredai’n ddwfn ym mhwysigrwydd diogelu Castell Aberteifi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ar adeg pan oedd dyfodol y safle hanesyddol yn ansicr, roedd ymhlith y rhai a helpodd yn ddiysgog i osod y sylfeini ar gyfer ei adfer, ei adnewyddu a’i aileni fel man o dreftadaeth, diwylliant a chymuned.

Roedd Dic yn un o ymddiriedolwyr sefydlol Ymddiriedolaeth Cadwgan yn y flwyddyn 2000. Chwaraeodd ran allweddol iawn wrth ennyn cefnogaeth gan y gymuned i godi’r arian cyfatebol oedd ei angen er mwyn sicrhau cymorth grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyllid Ewropeaidd Cymru. Bu hefyd yn allweddol yn y camau cynnar i brynu Tŷ Castell, a arweiniodd yn ddiweddarach at greu ‘1176’ fel bwyty.

Roedd ei ymrwymiad i’r Castell wedi’i wreiddio nid yn unig mewn cariad at hanes ac at bobl Aberteifi a’r cyffiniau, ond hefyd mewn ymdeimlad dwfn o le a pherthyn. Roedd yn deall yn iawn beth oedd ystyr Castell Aberteifi i’r dref ac i’r gymuned ehangach, a rhoddodd o’i amser, ei egni a’i gefnogaeth yn hael i helpu sicrhau ei ddyfodol.

Y tu hwnt i’w rôl swyddogol, fe’i cofir gyda hoffter mawr gan bawb a’i hadnabu. Gadawodd ei gymeriad, ei hiwmor arbennig, ei ymrwymiad a’i falchder lleol argraff barhaol, a bydd llawer iawn yn teimlo ei golled yn ddwys.

Ar ran pawb yng Nghastell Aberteifi ac Ymddiriedolaeth Cadwgan, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu, ei gyfeillion, a phawb oedd yn ei adnabod fel ffrind.

 

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?