
Nosweth Jolch yn Fowr yn y Castell
Dydd Iau, 20 Awst 2026 am 18:00 - 10:30 pm
Dewch i Gastell Aberteifi – lle cynhaliwyd yr Eisteddfod wreiddiol yn 1176; i ddathlu llwyddiant Eisteddfod y Garreg Las. Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru a’r Castell yn falch iawn i wahodd pawb i ‘Noson Jolch yn Fowr’ – lle byddwn yn dangos perfformiad o ‘Sefyll ar y Sgwâr’ ar sgrin sinema enfawr ar y lawnt.
Mae’r tocynnau am ddim, ond rhaid archebu tocyn o wefan y Castell. Byddwch yn derbyn cadarnhad o docyn drwy e bost – a bydd angen i chi gadarnhau eich e-bost wrth gyrraedd y Castell. Mae hyn er mwyn i ni gadw rheolaeth ar y niferoedd fydd yn mynychu. Felly o ran tocynnau cyntaf i’r felin fydd hi…
Dewch a’ch sedd, ond gadewch yr ymbarél a’r alcohol adre!
Ry’n ni’n edrych ymlaen at noson o gyd-ganu gyda’r Sioe a chyfle i bawb gwrdd lan i ddathlu gyda’i gilydd.
Bydd Pitsa a Phopcorn a diod ar gael i’w prynu o Far a bwyty 1176 ar y noson.
Gatiau yn agor am 6.00 . Y dangosiad o 7.30 ; a’r noson yn dod i ben am 10.30
Diolch i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am gefnogi’r noson.
Dechrau: 20/08/2026 6:00 pm
Diwedd: 20/08/2026 10:30 pm



