Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

CYMDEITHAS HANES TEULUOL DYFED- FFAIR OLRHAIN HANES

CYMDEITHAS HANES TEULUOL DYFED- FFAIR OLRHAIN HANES

Dydd Sadwrn, 19 Medi 2026 am 10:00 - 4:00 pm

Ffair Olrhain Hanes – Cymdeithas Hanes Teuluol Dyfed. – Sadwrn 19 Medi, rhwng 10 y bore a 4 y pnawn

Dewch draw i bafiliwn Castell Aberteifi am ddiwrnod o ddarganfod. Bydd byrddau o arbenigwyr yno i’ch helpu o amryw o gymdeithasau a gwasanaethau archif. Chwiliwch am hanes lleol neu llenwch y bylchau yn hanes eich teulu.

Os ydych yn hanesydd profiadol neu’n rhywun sy’ jest yn cychwyn ar y daith o ymchwilio bydd rhywbeth at ddant pawb.

Dewch draw i chwilio’ch achau i’r Castell yn Aberteifi – ma croeso i bawb.

Mae mynediad am ddim i’r Ffair ond rhaid prynu tocyn i ymweld â’r Castell.

 

Dechrau: 19/09/2026 10:00 am
Diwedd: 19/09/2026 4:00 pm

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?