
Illyria – Pinocchio
Dydd Mercher, 26 Awst 2026 am 18:00 - 8:00 pm
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI
Drysau: 5.00yh
Mae Geppetto, gwneuthurwr teganau heb blant, yn gwneud pyped pren – heb sylweddoli pa anhrefn y mae ar fin ei ryddhau. Mae’r pyped yn hiraethu am antur ac yn rhedeg i ffwrdd, ond yn lle dod o hyd i gyffro, mae popeth sy’n ei ddenu’n cynnwys peryglon cudd. Mae’n dychwelyd adref gan obeithio cael ychydig o gydymdeimlad ond yn canfod bod ei drafferthion newydd ddechrau. Nid yw rhedeg i ffwrdd wedi gweithio; ni fydd dweud celwydd yn gweithio; rhaid iddo ddod yn fachgen go iawn er mwyn dod o hyd i’r teimlad o berthyn mae’n ei grefu. Mae clasur Collodi wedi’i gyfieithu i 260 o ieithoedd ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn 1883. Mae Illyria yn dathlu’r stori hudolus hon am ddod i oed mewn sioe gerddorol awyr agored llawn cyffro.
Dechrau: 26/08/2026 6:00 pm
Diwedd: 26/08/2026 8:00 pm



