Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Pobol y Castell

Miss Wood

Y person ola’ i fyw yn y Castell.

Unigolyn tawel, ond un oedd yn ganolog  i hanes Castell Aberteifi yn yr ugeinfed ganrif. 

Prynodd Miss Wood a’i theulu y Castell ym mhedwardegau’r ganrif ddiwetha’ gan symud i fyw yma o Loegr gyda’i mam a’i thad.

Bu’n gweithio yn y West End yn Llundain fel dawnswraig, yn ei hieuenctid. Roedd yn gymeriad cry’ ag unigryw, ac wedi iddi golli ei rhieni bu’n byw yn Castle Green House ar ei phen ei hun am flynyddoedd maith. Yn ystod y cyfnod welodd galedu mawr, a thrafferthion ariannol heb incwm, ac yn y diwedd heb drydan na’r modd i wresogi’r tŷ, symudodd i fyw mewn carafan fechan tu allan i borth Castle Green House gyda’i chathod. Bu tipyn o ddadlau rhyngddi â’r Cyngor lleol wrth i’r Tŷ a’r safle adfeilio. Treuliodd gyfnod mewn cartre’ gofal cyn ei marwolaeth yn 2009.

Elderly woman enjoying a scenic view near Cardigan Castle, Wales, in black and white photograph

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?