Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

PAFILIWN ‘76

Odych chi’n cofio Haf poeth 1976?
Odych chi’n cofio ‘Steddfod Genedlaethol Aberteifi?
Falle’ bo’ chi wedi bod yn y Ddawns flodau?
Falle’ bo’ chi wedi canu mewn côr?
Falle bo chi wedi aros mewn carafan am y tro cynta’?
Neu wedi gweld Edward H Dafis?
Neu wedi bod i noson Tafodau Teifi?
Yma yng Nghastell Aberteifi ry’n ni wrthi yn paratoi arddangosfa o atgofion pawb o’r wythnos arbennig yma yn yr ardal – sy’ bellach hanner canrif yn ôl…

Rydym yn chwilio am:
• Bobl i’w cyfweld – allwch chi alw mewn neu fel criw bach i gael sgwrs ‘da Aelod o staff y Castell.
• Eitemau arbennig o ddiddordeb i gofio’r achlysur
• Lluniau o bob math
• Posteri neu ddefnyddiau marchnata eraill
Os nad ydych yn siwr – ond eisiau cyfrannu i greu archif o atgofion – cysylltwch ‘da’r Castell
info@cardigancastle.com neu ffoniwch 01239615131

Mae ‘Steddfod y Garreg Las – bron yma; dewch, rhannwch eich atgofion o ‘Steddfod ’76 gyda ni yn arddangosfa ‘Pafiliwn ‘76’

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?