Castell Ar Agor Heddiw

10am - 4pm

Tocynnau

Mae 1176 ar agor.

Digwyddiadau Preifat

Cynnal Parti / Dathliad/ Penblwydd

Mae’r Castell yn cynnig nifer o opsiynau gofod treftadaeth, ar draws y safle, i gynnal eich digwyddiad.

Rydym yn medru cynnig ystod eang o fannau cyfarfod cyfleus a phreifat ar gyfer bob math o ddigwyddiad boed hynny ar gyfer 100 o bobl neu ystafell i bedwar.  Mae bob gofod yn unigryw o ‘stafelloedd treftadaeth i gyfleusterau cyfoes.

Rydym yn medru cynnig gofod arbennig i groesawu’ch parti, dathliad, digwyddiad penblwydd neu Gymdeithas  o bob maint a math.

Mae’r amrywiaeth o fathau o ofod yn cynnig opsiynau amrywiol cyffrous a chofiadwy.

Mae’r ddarpariaeth arlwyo o’r safon uchaf, ac mae dewis o becynnau gwahanol i’w hystyried, a’r cyfan yn cael ei gyflwyno gan dim 1176, bwyty’r Castell

Mae’r safle yn heneb ac mae nifer o’r ystafelloedd mewn adeiladau sydd wedi eu cofrestru, sy’n creu awyrgylch unigryw. Rydym yn anelu at fod yn gwbl cynhwysol ac mae hygyrchedd y ‘stafelloedd yn bwysig i ni er mwyn i bawb gael yr un profiad a mwynhad wrth ymweld.

I drafod eich dyheadau a’ch gofynion penodol, cysylltwch ac mi wnawn ein gorau i’ch helpu.

Ffoniwch 01239615131 neu llenwch y ffurflen ymholiad.

Hoffet ti Dderbyn Cylchlythyr y Castell?