
‘Stafell Ddianc
Allwch chi ddianc o’r Castell?
Dirgelwch y Perlau Coll
Teithia nôl i 1832. Mr Davies sy’ berchen ar Castle Green House; fe yw Meistr y Tŷ, ac mae’n darganfod fod perlau drudfawr ei wraig ar goll!
Mae’n amau taw ti neu un o’i staff sy’n gyfrifol am y lladrad. Mae’r perlau yn werthfawr iawn, a’r sialens iti ag aelodau’r tîm os wnewch chi ei dderbyn yw profieich bod yn ddi-euog a dod o hyd i’r lleidr.
Mae’n gêm o gwestiynnu, dyfalu,ateb posiau a dadansoddi cliwiau a di-ystyru. I ganfod yr atebion bydd rhaid i chi weithio yn galed fel tîm a datrys y dirgelwch.
Wyt ti’n meddwl alli di brofi nad ti’ yw’r leidr?
Wyt ti’n meddwl alli di ddod o hyd i’r lleidr?
Yr unig ffordd i ddiance o’r ‘stafell yw datrys dirgelwch y Perlau coll!
Profiad ‘Stafell Ddianc unigryw gêm sy’n addas i’w chwarae gan dimoedd o 2 – 6 person. Mae’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd (plant dros 7+ oed) neu ar gyfer grwp o ffrindiau (rhaid i un fod yn Oedolyn).
Wedi ei ysbrydoli gan hanes Castle Green House, mae’r gêm yn cynnwys Teulu Davies o’r 19G, eu staff a ti!
Drwy weithio fel tîm rhaid profi bod pawb yn ddi-euog a dod o hyd I’r lleidr, er mwyn cael dianc o fewn yr awr.
Ma’ pedair slot ddyddiol ar gyfer Ystafell Ddianc – ar ddyddiau pan mae’r Castell ar agor i’r cyhoedd.
10 yb | 11.30 yb | 1.30 yp | 3.00 yp
Pris ‘Stafell Ddianc yw £60 ar gyfer grwp hyd at 6 o bobl (*Gostynigad o £5 os oes un o’r grwp yn Ffrind i’r Castell)
Rhaid cyrraedd y Castell chwarter awr cyn eish sesiwn.
Nodwn bod dau gam o risiau i fewn i’r ‘stafell.