Darganfydda Hanes y Castell
Sgrolia drwy hanes y Castell gyda’r llinell amser rhyngweithiol islaw i ddeall bob dim sydd wedi digwydd i’r Castell a phryd digwyddodd hynny!
1093
Dyma’r cyfeiriad cynta at y Castell sefydlwyd gan Iarll Roger de Montgomery ar lannau’r Teifi. Mae’r cyfeiriad mwya tebyg at yr Hen Gastell oedd yn sefyll tua milltir i lawr at y mor. Deiliad cynta’r Castell presennol tua 1110 oedd Gilbert Fitz Richard de Clare.

1165
Yn gynnar yn Nhachwedd cipiodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd y Castell drwy ddefnyddio ystolion i ddringo’r waliau, ac yna ei ddistrywio. Symudodd ei Brif-lys yma’n 1171 gan gychwyn ail adeiladu’r Castell gyda cherrig – y tro cynta’ i hynny ddigwydd. Y gred yw taw dyma’r Castell cyntaf erioed i gael ei adeiladu o garreg gan Gymro. Deng mlynedd wedi iddo gychwyn – gorffennwyd y gwaith ac i ddathlu hynny cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr Eisteddfod gyntaf yma ar Ddydd Nadolig 1176.

1254
Wedi nifer o ymosodiadau heb lwyddiant a sawl cipiad llwyddiannus rhwng 1215 a 1245, derbyniodd y Tywysog Edward o Loegr Castell Aberteifi ar ddydd San Ffolant 1254. Pan ddoth yn Frenin cyhoeddodd taw Aberteifi oedd prif dref Sir Aberteifi, (Ceredigion heddi) yn 1279.

1428-29
Gwnaed newidiadau mawr a gwelliannau i Gastell Aberteifi dan berchnogaeth y Brenin Henry.

1644
Bu’r Castell dan warchae ac fe’i gipiwyd gan Seneddolion dan arweiniad Cadfridog Laugharne. Yn 1645 roedd y Castell dan warchae i’r Brenhinwyr, a bron iddyn nhw ddymchwel y bont dros y Teifi. Trechwyd y Brenhinwyr ond gadawyd y Castell wedi ei losgi a’i ddifrodi.

1808
Adeiladwyd Tŷ Castle Green ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach yn 1827.

1984
Dyfarnwyd bod Castle Green House an anghymwys ar gyfer pobl i fyw ynddo. Symudodd Miss Wood allan i fyw mewn carafan fechan yn y gerddi, cyn gadael y Castell am y tro olaf ym 1999 pan symudodd i Gartre Nyrsio preswyl lleol.

2001
Y papur lleol, The Tivy-Side Advertiser, yn cychwyn ymgyrch “Achub y Castell”. Prynwyd y Castell gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2003.

2011
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Cadwgan grantiau oddi wrth ariannwyr i ddatblygu ag achub y Castell. Yn eu mysg roedd yr HLF, Cronfa treftadaeth y loteri ag ERDF, arian o Gronfa Ddatblygu Ardaloedd Di-freintiedig Ewrop drwy law’r llywodraeth. Fel rhan o’r datblygiad ychwanegwyd bwyty 1176, a llety yn y tai ag Adain Ddwyreiniol Castle Green House ar y safle, a’i lansio fel gofod i gynnal digwyddiadau.

2015
Agorwyd drysau’r Castell i’r cyhoedd fel atyniad treftadol yn 2015 wedi’r gwaith adfywio ac ailadeiladu helaeth. Roedd adfer y Castell yn brosiect mawr denodd gefnogaeth gan ariannwyr a grantiau amrywiol i gyfanswm o dros 12 miliwn o bunoedd.
Enillodd y gwaith sawl gwobr ac mae’n amlwg bod y safle a diogelu treftadaeth y Castell ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol wedi ei gyflawni fel nod.

Y Delyn
Darganfyddwch ein llety Gwely a Brecwast Treftadaeth moethus a llety Hunanarlwyo. Mae ystafelloedd teulu, ystafelloedd dwbl, fflatiau a bythynnod yn cynnig opsiwn ar gyfer pob dewis.
“”Anhygoel dweud. Mae’r ystafelloedd yn gyfforddus gyda chyfleusterau modern wrth gadw eu cymeriad. Mae’r lleoliad yn anhygoel a’r afon y tu allan. Mae’r lle yn wirioneddol anhygoel ac mae’r brecwast yn wych.”
Richard
