Only Men Aloud Awst 13
YN PERFFORMIO YNG NGHASTELL ABERTEIFI
Drysau o 18.45
Cerddoriaeth o 19.30
Mae’r ffenomen gorawl Gymreig wedi mynd o nerth i nerth ers iddynt ennill Last Choir Standing y BBC yn 2008. Gyda channoedd o filoedd o werthiannau albwm, naw taith o’r DU, Gwobr Brit Clasurol am Albwm y Flwyddyn, ymddangosiadau teledu di-rif a niferoedd o berfformiadau byw penigamp gan gynnwys seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, mae’n bleser gennym gyflwyno Only Men Aloud i Gastell Aberteifi am y tro cyntaf yr haf hwn.
Hyrwyddiad ar y cyd gan Theatr Mwldan | Castell Aberteifi