Home » Ymweliad

Ymweliad

Mae ymweliad â Chastell Aberteifi yn fwy na'r ymweliad arferol â chastell - mae yna oes i bob oed.

 

 arrowGwelwch Oriau Agoriadol a phrisiau Tocyn

Mwynhewch ein plasty Georgaidd ysblennydd, lle gallwch ddysgu am y Castell, y bobl oedd yn arfer byw yma, a hanes geni gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru, yr Eisteddfod.

Archwiliwch y waliau canoloesol ac olion y castell. Gallwch hyd yn oed dreulio noson yn ein llety moethus o’r safon uchaf.

Neu beth am fwynhau'r jyngl chwarae o'r 21ain ganrif a llu o ddigwyddiadau i'r teulu.

Llawer i’w harchwilio

Golyga’r haenau o hanes o fewn safle’r castell bod llawer iawn i chi eu gweld.

Archwiliwch y muriau canoloesol a chwiliwch am weddillion y castell; Ymwelwch â’r Plas Sioraidd hyfryd a darganfyddwch am y bobl a oedd arfer byw yn y castell drwy gydol ei hanes; Crwydrwch drwy Erddi rhestredig Gradd II trawiadol sydd yn llawn rhywogaethau o blanhigion prin.

Bydd ein tywyswyr taith yn rhannu hanes y castell 900-mlwydd oed yma, gan ddod â’r safle arbennig yn fyw.

“Roedd ein tywyswr wir yn wych. Mae e’n amlwg yn byw ac yn anadlu’r castell. Roedd ei wybodaeth helaeth a’i lais clir wedi cyfareddu pawb.”

Image of the Gardens at Cardigan Castle.
An event, outside at Cardigan castle, with people in the audience.

Arddangosfeydd Hudol

Mae’r castell yn gartref i ystod o arddangosfeydd parhaol a thros dro, yn ffocysu ar ei hanes - a hynny o’r ardal gyfagos.

O Stori Castell Aberteifi, i ddisgrifiad hudol bywyd Barbara Wood, perchennog preifat olaf y castell, i Arddangosfa’r Eisteddfod (mewn dathliad o hawl Aberteifi fel man geni’r Eisteddfod) - rydych yn siŵr o ddarganfod rhywbeth a fydd yn swyno ac yn tanio eich dychymyg.

Mwy na gwers hanes

Gyda thipyn yn mynd ymlaen yng Nghastell Aberteifi, ni fyddwch yn syrffedu am rywbeth i’w wneud.

Edrychwch ar ein ‘gwe-ystlum’ a chewch olwg agos ar westeion prin y castell, cewch ddarganfod ein hanes cudd, neu archwiliwch y planhigion treftadaeth prin yn ein gardd furiog Sioraidd. Gallwch hyd yn oed wneud bach o arddio eich hun.

Mae’r castell yn gartref i ystod o berfformiadau yn cynnwys dewis o gerddoriaeth, pa un ai’n glasurol neu’r bandiau diweddaraf; dramâu swynol; a pherfformwyr dawns arbennig. Edrychwch ar ein digwyddiadau i ddod.

Gall plant ymuno gydag un o’n sesiynau crefft wythnosol, archwilio’r blwch gwisg ffansi a dod yn forwyn, marchog neu’n fonedd Sioraidd, dilyn llwybr yr Eisteddfod drwy’r gerddi, neu chwarae ar un o’r gemau bwrdd anferthol.

Knights Battling at Cardigan Castle.

Amserau agoriadol

Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 10yb tan 4yp.
Cadair olwyn ar gael.

Prisiau Tocynnau

Mynediad 

  Heb Rodd Cymorth Gyda Rhodd Cymorth
Oedolion £6.00 £6.00
Plant (3-16) £3 £3

Mynediad diderfyn i Gastell Aberteifi rhwng 10am a 4pm (ac eithrio digwyddiadau ychwanegol).

Mwynhau ein Teithiau

Dysgwch am hanes y safle 900 mlwydd oed yma gyda thywyswr taith bersonol.

Mae ein teithiau gan dywyswr o amgylch y safle o 2pm. Ffoniwch 01239 615131 i weld yr argaeledd os gwelwch yn dda.

Teithiau grŵp

Ar gyfer ysgolion: £2.00 pob disgybl ac athrawon am ddim.

Ar gyfer grwpiau fyny hyd at 10 person: £6.50 gyda Rhodd Cymorth, £6.00 heb Rodd Cymorth.

Am grwpiau o dros 10 o bobl: £5 y pen.

 

Pam na wnewch chi orffen eich taith gyda thamaid blasus i’w fwyta ym Mwyty 1176. Edrychwch ar ein bwydlen taith nos.

I archebu ffoniwch 01239 615131 neu e-bost info@cardigancastle.com