Muriau canoloesol crand o'ch amgylch, adeiladau â chanrifoedd o hanes a gerddi gwyrdd; y llwyfan hudolus i greu atgofion bythgofiadwy o'ch priodas yng Nghastell Aberteifi.
Mae amrywiaeth o leoedd i ddewis ohonynt i greu eich diwrnod perffaith gan gynnwys ystafelloedd moethus ein Plasdy Sioraidd a'r pafiliwn eang a chrand.










O fore gwyn tan oriau hwyr y nos, cewch fwynhau eich diwrnod yn ddi-ymyrryd gyda defnydd anghynhwysol o'r Castell ar gael.
Pa bynnag maint ac arddull eich priodas perffaith, cewch fwynhau pob eiliad yng nghwmni eich gwesteion, gyda digonedd o lety syfrdanol ar y safle.
'Agwedd a wnaeth i'n penwythnos o ddathlu deimlo'n arbennig oedd cael y lle yn gyfan gwbwl i'n gwesteion. Mae hyblygrwydd y pecynnau a dewis o leoedd amrywiol yn golygu bod rhywbeth i weddu pawb...Fe wnaeth brwdfrydedd y tim cwblhau'r diwrnod i ni - roedd pawb wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cael amser gret ac fe wnaeth ein gwesteion rhannu sylwadau ar y gwasanaeth ffantastig a ddarparwyd!'
Lluniau: Priodas Pete a Sian, 2019
©Owen Mathias Photography
Arlwyaeth rhyfeddol









O'r eiliad cyntaf, bydd ein trefnydd priodasau wrth eich ochr i wrando a rhannu'ch gobeithion gydag aelodau eraill o'r staff a'r uwch-gogydd i ffurfio eich dathliad perffaith.
Bydd ein tȋm profiadol yna i gynorthwyo trwy gydol y cyfnod trefnu, yn ogystal ag ar ddiwrnod y briodas, i sicrhau eich bod yn gallu mwynhau ac ymlacio yn ystod y paratoadau a'r diwrnod arbennig.
'Fe wnaeth Castell Aberteifi sefyll mas i ni fel safle priodas am sawl rheswm. Mae'r safle ei hun yn hollol syfrdanol gyda'i lawntydd prydferth a chymaint o gefndir hanesyddol. Er bod y Castell yng nghanol tref Aberteifi, roedd y safle'n teimlo'n breifat a neilltuedig. Roeddwn ni'n dwli ar y ffaith bod gyda ni'r lle cyfan i'n hunain wedi i glwydi'r Castell cau am y dydd. Mantais ychwanegol oedd llety syfrdanol y Castell.
Lluniau: Priodas Jonathan ac Elin, 2019
©Sarah Mumford Photography
Credwn y dylai priodas adlewyrchu breuddwydion a phersonoliaethau penodol y pâr, ac felly, mae pob priodas yng Nghastell Aberteifi'n wahanol.
Os ydych chi'n edrych am rywle i gynnal eich priodas unigryw a phersonol, rydyn ni'n awyddus i'ch helpu.
Trefnwch ymweliad nawr neu danfonwch ebost i [email protected] a sgwrs gyda'n trefnydd priodasau.
Lluniau: [Sarah Mumford Photography; Holden's Catering; Castell Aberteifi]









Trefnwch ymweliad â Chastell Aberteifi
Dewch i gyfarfod â Gwenith, ein trefnydd priodas, i drafod eich trefniadau wrth grwydro'r safle, gerddi ac ystafelloedd.
Ffoniwch 01239 615 131 neu dewiswch amser cyfleus yma.
[bookly-form category_id="-1" service_id="1" staff_member_id="1" hide="categories,services,staff_members,week_days"]