Cardigan Castle

Amserau Agor

Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 10yb tan 4yp

Tocynnau

Mae tocyn yn ddilys am flwyddyn.

Oedolion: £8
Plant: £5
Tocyn Teulu: £22
Cŵn: £2

Cyfeiriad

Stryd Werdd,
Aberteifi,
SA43 1JA

Y diweddar Jann Tucker MBE

Dymuna Bwrdd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan a Staff Castell Aberteifi estyn eu cydymdeimlad dwys i deulu a ffrindiau'r diweddar Jann Tucker MBE.

Roedd Jann yn un o’r ymddiriedolwyr gwreiddiol, sefydlodd yr elusen, gan gymryd y Gadair yn 2005 ar ôl y diweddar Trevor Griffiths. Parhaodd Jann yn y rôl hyd 2016 a bu’n greiddiol i ddatblygiad strategol ac ymarferol y Castell wrth ei adfer. Drwy’r cylchoedd codi arian a’r broses ail-gynllunio ac ail-adeiladu’r safle, bu’n gefn i bob cam hyd at y lansiad yn 2015 a’r cyfnod wedi hynny. Roedd hi’n benderfynol ac yn gryf ei barn wrth ddelio â chyrff allanol gan fynnu gyrru’r adfywiad yn y Castell hyd at y canlyniad llwyddiannus welwn heddiw.

Fe’i hanrhydeddwyd gydag MBE yn rhestr anrhydeddau Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II yn 2014, am ei chyfraniad i dreftadaeth Ceredigion.
Roedd ei chyfraniad i’r Castell yn eithriadol bwysig ac fe saif y safle heddiw yn ei ogoniant fel tysteb i’w dyfal barhad a’i gwaith caled.

Jann Tucker yn dal allwedd  swyddogol i'r Castell ar gyfer yr agoriad yn 2015. Llun gan Glen Johnson.

Beth am drio dianc o'r Castell?

Beth am drio dianc o'r Stafell Ddianc?  Ma rhywun wedi dwyn Perlau Mrs Davies , ac mae perchennog Castle Green House yn mynnu ta chi a'ch criw sy'n gyfrifol am hynny!  Ma' 'da chi awr gyfan i brofi nad chi sy'n euog cyn bo'r heddlu yn cyrraedd. Allwch chi fel tîm ddatrys y cliwiau a'r posau i brofi nad chi sy'n euog o ddwyn y perlau?

Mae rhestr o bobl posib allai fod wedi dwyn y perlau. Y sialens i chi yw dod o hyd i'r sawl sy'n gyfrifol am y lladrad!

Mae'r cyfan yn digwydd yn Ystafell yr Enfys yn Castle Green House.

Mae'n costio £60 i grwp o hyd at 6 o bobl. Mae pob ymgais i ddianc yn cymryd awr. Gofynnir i chi gyrraedd y Castell chwarter awr cyn eich sesiwn. Rhaid archebu o flaen llaw a rhaid bod oedolyn yn un o'r grwp os yw'r gweddill yn blant. Rhaid bod yn 12 oed i gymryd rhan.

 

Beth sydd ymlaen yng Nghastell Aberteifi?

Congrinero

£12

Newyddion cyffrous am Sioe newydd Mewn Cymeriad Mae rhyfel yn andwyo Ewrop. Ac mae un dyn yn wynebu argyfwng mwyaf ei fywyd. Drama am fywyd cynnar T. H. Parry-Williams, a'r …

Find out more »
11 Chwefror 2025

Arhoswch mewn llety hunan ddarpar, gwely a brecwast ynghanol Aberteifi.

Beth sydd ar gael?

 

Lleoliadau heb eu hail

Y lleoliad perffaith am gynhadledd neu ddathliad arbennig

Ystafelloedd yn llawn cymeriad a chymwysterau

Siaradwch gyda'r swyddfa

 

Bwytwch mewn steil

Mwynhewch fwyd arbennig, yn defnyddio cynnyrch lleol.

Bwcio Bwrdd

Meddyliwch am seremoni priodas mewn awyrgylch lledrithiol.

Naws hudol sy'n eich cysylltu â hanes arbennig y safle.

Mi allwn ni helpu greu eich diwrnod perffaith.

Ydych chi am e-bost i gadw mewn cyswllt?