Yma yng Nghastell Aberteifi rydym yn dibynnu ar ymroddiad a brwdfrydedd ein gwirfoddolwyr sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o redeg y Castell o ddydd i ddydd.
Mae sawl rheswm pam mae pobl yn dewis gwirfoddoli yma. I rai, mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol. I eraill, mae'n gyfle i ddatblygu sgiliau newydd neu feithrin profiad a gwybodaeth bresennol. Waeth beth sy'n eu cymell, mae'r ffaith bod gwirfoddoli yn heriol ac yn foddhaus yn deimlad a rannir gan bawb.
Oes rôl gwirfoddol sy'n addas i chi