Home » Dathlwyd blwyddyn ers ail agor Castell Aberteifi

Dathlwyd blwyddyn ers ail agor Castell Aberteifi

Seremoni arbennig yng nghwmni Uwch Siryf Dyfed

Dathlwyd blwyddyn ers ail agor Castell Aberteifi gyda seremoni arbennig heddiw yng nghwmni Uwch Siryf Dyfed yr Athro Medwin Hughes.

Nododd yr Athro Hughes fod y Castell yn lwyddiant hynod a thalodd deyrnged i'r rhai fu ynghlwm a'r ymgyrch i adfer ac ail agor y safle dros gyfnod o dros bymtheg mlynedd.

Ychwanegodd fod y Castell yn le pwysig i dwristiaeth, yr economi a threftadaeth yn Aberteifi.

Cyflwynodd Yr Athro Hughes ddatganiad i Ymddiriedolaeth Cadwgan yn llongyfarch yr Ymddiriedolaeth ac yn nodi cyfraniad hanesyddol y castell i fywyd Cymru a phwysigrwydd y safle wrth hybu twristiaeth, economi a diwylliant yr ardal.

Cynhaliwyd y seremoni yn Ystafell y Tŵr gyda staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolowyr a Maer y Dref yn bresennol.

Cutting a Cake inside Cardigan Castle.