Tri Tenor gyda Ar Ol Tri
Mae Theatr Mwldan a Castell Aberteifi yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y Tri Tenor Cymru gyda chefnogaeth Ar Ôl Tri yn cael ei chwarae ar Dydd Sadwrn 9 fed Gorffennaf Drysau'n agor am 6.30yh
Aled Hall, Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies. Tri gwladgarwr a nhw bellach ydi Tri Tenor Cymru, sy’n swyno cynulleidfaoedd led led Cymru, Lloegr a hyd yn oed America. Clasuron byd yr opera, emynau mawr y genedl, caneuon ysgafn poblogaidd – cerddoriaeth ar gyfer pob chwaeth a phob achlysur. Dyna eu hanes, ond gellid crynhoi y cyfan ddwedwyd amdanynt i ddau air yn unig - Y Tri Tenor- Cyffro Cerddorol! Y Tri Tenor gyda Jeff Howard yn gyfeiliant.
Dechreuodd Ar Ôl Tri ddeg mlynedd ar hugain yn ôl fel grwˆp bach o ddeg, gan ganu caneuon digyfeiliant o wahanol arddulliau. Erbyn hyn yn griw o 30 aelod, maent yn cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau cenedlaethol, yn ogystal â pherfformio mewn nifer o gyngherddau elusennol.
Tocynnau ar gael o ac maent ar gael i archebu o Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan ar 01239 621200 , ar-lein neu drwy ffôn smart ar www.mwldan.co.uk
Bydd digwyddiadau byw pellach ar fin cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, ymunwch a Theatr Mwldan a / neu restr bostio Castell Aberteifi am fanylion neu dilynwch nhw ar Twitter / Facebook