Daw Theatr Mwldan a Chastell Aberteifi â thymor arall o theatr awyr agored penigamp i’r gerddi syfrdanol yn y Castell yr haf hwn. Bydd y tymor, a gyflwynir i chi gan Illyria, yn cynnwys The Pirates of Penzance (1 Awst), The Hound of the Baskervilles (7 Awst) a Dr. Doolittle (23 Awst).
Ar 1 Awst, cyflwynir antur gyffrous, The Pirates of Penzance gan Gilbert & Sullivan, sy’n adrodd hanes Frederick, a’i ymdrechion i ddianc rhag gafael brenin y môr-ladron y mae’n brentis iddo. Yn llawn caneuon cofiadwy, gyda melodrama digrif tu hwnt, dychan miniog a ffraethineb disglair, mae The Pirates of Penzance mor ffres a phetasai wedi ei hysgrifennu heddiw. (Tocynnau £16/£14/£11).
Ar 7 Awst, bydd y ditectif enwocaf oll ym myd llenyddiaeth, Sherlock Holmes, a’i gynorthwyydd, Doctor Watson yn cyrraedd Aberteifi, i geisio datrys achos mwyaf astrus eu gyrfaoedd yn yr addasiad ffyddlon, haerllug ond iasol hwn o The Hound of the Baskervilles gan Syr Arthur Conan Doyle. (Tocynnau £13/£11/£9).
Ar 23 Awst, byddwn yn cwrdd â Dr John Dolittle, sydd wedi ei addysgu gan ei hen barot doeth sut i siarad ag anifeiliaid. Ymunwch ag ef a’i griw ffyddlon o anifeiliaid sef Jip y ci, Chee-Chee y mwnci, Dab-Dab yr Hwyaden a’r bythol newynog Gub-Gub y mochyn, wrth iddynt gychwyn allan ar genhadaeth i wella salwch, lledu tosturi a datblygu gwell dealltwriaeth o deyrnas yr anifeiliaid. Yn antur ddoniol, hoffus a chyffrous sy’n cario neges gref am gyfrifoldeb tuag at anifeiliaid a’r amgylchedd. Mae’r sioe yn addas i fwncis bach sy’n 5 oed ac yn hŷn. (Tocynnau £13/£11/£9).
The Castle, together with Theatr Mwldan, offer a summer programme of comedy, open-air theatre and large-scale music events, all in the stunning surroundings of Cardigan Castle. Theatr Mwldan is the sole ticketing outlet for these events – please contact their Box Office on 01239 621200 or book online at www.mwldan.co.uk. Please see Mwldan’s website for essential information and age suitability guidance for these events.
Mae’r Castell, ynghyd â Theatr Mwldan, yn cynnig rhaglen haf o gomedi, theatr awyr agored a digwyddiadau cerddorol ar raddfa fawr, oll yn amgylchoedd ysblennydd Castell Aberteifi. Theatr Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01239 621200 neu archebwch ar-lein ar www.mwldan.co.uk. Cyfeiriwch at wefan y Mwldan am wybodaeth hanfodol a chanllawiau addasrwydd o ran oedran ar gyfer y sioeau hyn.