Home » Ymweliadau Addysg

Ymweliadau Addysg

Mae amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol ac addysgol ar gael yng Nghastell Aberteifi.

Am dâl o £3 y plentyn rydym yn darparu:
• ystafell ymroddedig ar gyfer y plant yn cynnwys byrddau a chadeiriau gyda lle i adael bagiau, cyflawni gweithgareddau ac i fwyta pecynnau cinio.
• taflenni gwaith a phensiliau lliwio
• cwis y castell gyda llwybrau tu fewn a thu allan
• cyfle i drin a thrafod y darganfyddiadau archaeolegol
• opsiwn o daith dywysedig (Cymraeg neu Saesneg)
• ardal chwarae i blant
• cyfle i wisgo lan mewn gwisgoedd amrywiol

Rhowch wybod os oes cyfnod o hanes arbennig yn berthnasol i’ch ymweliad. Mae’r teithiau o fewn waliau’r castell ac/neu Castle Green House ac mae’r tywyswyr yn barod i ganolbwyntio ar y canlynol:
• Hanes y castell o 1110 hyd at heddiw
• Yr Arglwydd Rhys a’r eisteddfod gyntaf
• Y cyfnod Canoloesol
• Y Rhyfel Cartref
• Y cyfnod Sioraidd
• Y cyfnod Victoraidd
• Yr Ail Ryfel Byd
• Adfer Castell Aberteifi
• Gerddi’r castell
• Archaeoleg yn y castell
Mae pecynnau addysg dwyieithog ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2) ar y wefan: www.cardigancastle.com/education
Archebwch eich ymweliad drwy:
ebostiwch – [email protected]
neu ffoniwch – 01239615131