Yn ogystal â diogelu 900 mlynedd o hanes, mae'r gwaith o adfer Castell Aberteifi wedi arwain archaeolegwyr at rai pethau cyffrous – 9,500 o bethau mewn gwirionedd!
Yn eu plith, datgelodd cloddfa archaeolegol ran newydd o'r castell gwreiddiol, yn dyddio'n ôl i'r 1170au.
Darganfuwyd hefyd ystafell danddaearol, darn o benglog dolffin, pen saeth canoloesol a chwpan Sefydliad y Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu (NAAFI) o'r Rhyfel Byd Cyntaf; gyda phob eitem yn datgelu mwy o straeon am Aberteifi, y Castell, a'r bobl oedd yn arfer byw yma.

Beth sydd i'w weld
Heddiw, gall ymwelwyr archwilio sawl eitem nas gwelwyd o'r blaen, yn cynnwys crochenwaith canoloesol a chanfyddiadau archaeolegol eraill o'r Castell, offer adeiladwyr cychod ac eitemau o hanes masnachol a chymdeithasol Aberteifi.
A gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tynnu eich llun o flaen ein bwa walbon a adferwyd mewn modd prydferth – nodwedd hanfodol ar gyfer unrhyw ardd ddechrau'r 19eg ganrif.
Beth am ddarganfod ein harddangosfeydd yn "Castle Green House"

Trigolion gyda'r nos
Mae'r Castell wedi bod yn gartref i lawer dros y blynyddoedd, o dywysogion i blismyn, ond dim ond yn y nos y bydd ein trigolion diweddaraf yn mentro allan.
I lawr yn islawr ein Tŵr Gogleddol canoloesol mae clwydydd ystlumod gwarchodedig dynodedig, sy'n gartref i'r Ystlum Trwyn Pedol prin. Gellir gweld rhywogaethau eraill yn hedfan fry uwchben y waliau, yn bennaf yr ystlum lleiaf ("pipistrelle").