Castell Aberteifi yn derbyn gwobr cymeradwyaeth uchel
Castell Aberteifi yn derbyn gwobr cymeradwyaeth uchel mewn seremoni wobrwyo genedlaethol
Tynnwyd sylw arbennig at y gwaith o adfer Castell Aberteifi yng nghategori Cadwraeth Adeiladau Gwobrau Cenedlaethol RICS mewn seremoni arbennig yng Ngwesty’r Hilton yn Llundain yn ddiweddar.
Roedd Cwmni Penseiri Purcell ac ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Cadwgan Joff Timms yno i dderbyn y wobr.
Enillydd y categori oedd datblygiad gwerth £1 biliwn yng Ngorsaf New Street Birmingham.
Roedd Castell Aberteifi yn un o 90 o brosiectau led led Prydain a ddewiswyd i fynd ymlaen i’r rownd derfynol ac un o 12 a ddewiswyd ar gyfer y categori Cadwraeth Adeiladau.
Dywedodd Mr Timms: “Roedd ystod o brosiectau trawiadol iawn yn y gystadleuaeth ac roedd y castell yn un o gyfres o brosiectau mawreddog. Mae’r wobr yn adlewyrchiad o lwyddiant aruthrol y prosiect ac ansawdd uchel y mewnbwn proffesiynol a’r crefftwaith.“
Roedd hi hefyd yn braf gweld mai llun ohono yn eistedd yng Nghadair Eisteddfod gerddi’r Castell a gyflwynwyd i Gadeirydd y Panel Beirniadu ar ei ymddeoliad.
Capsiwn: Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr Non Davies gyda’r ysgrifennydd Joff Timms a chyd-ymddiriedolwyr Keith Evans, Kevin Taylor, Arwyn Reed, Clive Davies, a Gareth Lloyd gyda Thystysgrif Cydnabyddiaeth Uchel Gwobrau RICS