Home » Adfywio seld y castell

Adfywio seld y castell

Adfywio Seld y Castell

Mae seld a fu’n sefyll yng Nghastell Aberteifi am bron i ddau gant a hanner o flynyddoedd wedi cael bywyd newydd ac mae’r diolch am hynny i Richard Perry-Evans, darlithydd yng Ngholeg Ceredigion

Treuliodd Richard, sydd yn ddarlithydd yn Adran Creu ac Atgyweirio Dodrefn y coleg , wythnosau lawer yn ymgymryd a’r gwaith llafurus o atgyweirio’r darn traddodiadol o goed pin a fu’n sefyll yng nghegin Tŷ Castle Green ers 1760.

Bu’r seld yn sefyll yn y gegin mor hir nes creu olion yn y llawr llechen. Pan ddaeth y Castell yn berchen i’r cyhoedd ddechrau’r ganrif fe’i tynnwyd o’r gegin a’i gosod ar werth mewn ocsiwn lleol cyn ei dwyn yn ôl i’w lle priodol yn y Castell yr haf hwn.

“Roedd y seld mewn cyflwr gwael iawn” meddai Richard. “Mae’n dal i ddangos olion llosgi ar y silffoedd lle gadawyd canhwyllau i losgi a gellir gweld dafnau o gwyr cannwyll ar y droriau o hyd. Mae’r seld yn wir wedi cael bywyd caled. Mae’r seld wedi ei hadfer mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r bywyd hwnnw.”
Dywedodd Swyddog Adnoddau’r castell “Yr ydym yn falch dros ben gyda’r gwaith arbennig mae Richard wedi ei gyflawni . Mae’n wych bod y darn hyfryd hwn o ddodrefn yn ôl yn ei grater priodol yn Nhŷ Castle Green”.”

Yn y llun gyda Richard Perry Evans mae Pennaeth Coleg Ceredigion Jacqui Weatherburn, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol Coleg Ceredigion ac aelod o fwrdd Ymddiriedolwyr Cadwgan Non Davies, Swyddog Adnoddau’r Castell Sue Lewis ac aelod o fwrdd Ymddiriedolwyr Cadwgan a Maer y Dref y Cyng. Clive Davies.

A Dresser at Cardigan Castle.
January 2003 - Castle Green Kitchen dresser, Cardigan Castle, in Henllan auction rooms (c) Glen K Johnson. H