- Awyr iach ymhlith gogoniant y gerddi
Mae safle Castell Aberteifi yn ddwy erw o faint. Pa ffordd well i gerdded y cinio Nadolig i ffwrdd nag i dreulio peth amser o gwmpas y gerddi arbennig yma. Cewch weld ardd y gegin, cerdded y muriau a llawer mwy.
- Hanes tymhorol
Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yma yng Nghastell Aberteifi ar ddydd Nadolig 1176. Maen anodd peidio â theimlo ysbryd y digwyddiad drwy’ naws arbennig yn ystod yr adeg yma o’r flwyddyn.
- Arddangosfa Cadair Ddu Hedd Wyn
Fe fydd yr Arddangosfa o replica Cadair Ddu Hedd Wyn yn dod i ben yn y flwyddyn newydd. Manteisiwch ar y cyfle i’w weld.
- Oriel Wynne Melville Jones
Arddangosfa dros dro o waith yr arlunydd lleol Wynne Mel Jones. Dewch I weld eu gwaith ar olygfeydd canolbarth a gorllewin Cymru.
- Bargen yn addas i bob Cardi
Mae ‘na fargen i’w chael ymhob man yn ystod adeg yma o’r flwyddyn a dydy Castell Aberteifi ddim yn wahanol. Dewch i bigo lan bargen fach.
- Bwyd tymhorol blasus
Mae ein bwyty 1176 yn cynhyrchu bwyd o’r safon uchaf drwy ddefnyddio cynnyrch o ardd y gegin yn ogystal â chynnyrch lleol arall.
- Gwerth yr arian
Mae ein Tocyn mynediad nawr yn ddilys am flwyddyn gyfan. Drwy gydol 2019 fy fyddwn yn parhau i ddod ac arddangosfeydd dros dro, oriel gelf dymhorol a Digwyddiadau difyr. Prynwch eich Tocyn nawr i fwynhau’r castell drwy’r flwyddyn.