O wersi Cymraeg i daflenni gweithgarwch cysylltiedig â’r cwricwlwm – mae ein canolfan addysg yn gwahodd ymwelwyr o bob oedran a gallu i ymgolli yn eu diwylliant lleol a datblygu sgiliau newydd.
Cyrsiau a Gweithdai
Cymraeg i Oedolion
Cynhelir gwersi Cymraeg yn ystod y tymor o ddydd Llun i ddydd Iau. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.
Tecstiliau Treftadaeth y Castell...
Croeso cynnes i unrhywun sydd a diddordeb o ddechreuwyr pur i bobl profiadol. Mae'r grwp yn cwrdd bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul ac yn mynd ar deithiau i lefydd diddorol. Yr artist lleol, bu'n arwain ar prosiect y Gardigan, sef Lisa Hellier yw'r arweinydd. Cysylltwch â 01239 615131 am ragor o wybodaeth ewch i'r dudeln yma.
Clwb Telyn y Castell...
O dan arweiniad Meinir Heulyn, telynores hynod brofiadol, bydd Clwb Telyn y Castell yn cyfarfod bob pythefnos ar fore Sadwrn (10yb-1.30yp), yn dechrau ar 10 o Fedi. Bydd y cyngerdd cyntaf yn y castell yn Ragfyr.cais Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen
Clwb Cynghanedd Ceri Wyn Jones
7.30yh - 9.30yh pob nos Iau o'r 10 Medi - 10 Rhagfyr (heblaw gwyliau ysgol). Bob yn ail nos Iau Ionawr - Mawrth
Pris Llogi: £10 y session
Plant
Lawrlwythwch ein taflenni lliwio a’r posau cysylltiedig â’r cwricwlwm i blant, i helpu'r rhai ifanc yn ein plith i ddysgu am hanes y Castell mewn ffordd hwyliog ac addysgol.
Adnodd Addysg
Llwythwch ein pecynnau addysg.
Ymweliadau Addysg
Mae amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol ac addysgol ar gael yng Nghastell Aberteifi.
Am dâl o £3 y plentyn rydym yn darparu:
• ystafell ymroddedig ar gyfer y plant yn cynnwys byrddau a chadeiriau gyda lle i adael bagiau, cyflawni gweithgareddau ac i fwyta pecynnau cinio.
• taflenni gwaith a phensiliau lliwio
• cwis y castell gyda llwybrau tu fewn a thu allan
• cyfle i drin a rhoi llaw ar a y darganfyddiadau archaeolegol
• opsiwn o daith dywysedig (Cymraeg neu Saesneg)
• ardal chwarae i blant
• cyfle i wisgo lan mewn gwisgoedd amrywiol
Rhowch wybod os oes cyfnod o hanes arbennig yn berthnasol i'ch ymweliad. Mae'r teithiau o fewn waliau'r castell ac/neu Castle Green House ac mae'r tywyswyr yn barod i ganolbwyntio ar y canlynol:
• Hanes y castell o 1110 hyd at heddiw
• Yr Arglwydd Rhys a'r eisteddfod gyntaf
• Y cyfnod Canoloesol
• Y Rhyfel Cartref
• Y cyfnod Sioraidd
• Y cyfnod Victoraidd
• Yr Ail Ryfel Byd
• Adfer Castell Aberteifi
• Gerddi'r castell
• Archaeoleg yn y castell
Mae pecynnau addysg dwyieithog ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2)
Archebwch eich ymweliad drwy:
ebostio - [email protected]
neu ffonio - 01239615131