Braf iawn oedd cael croesawu yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant,Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru i’r castell ddydd Mawrth 31ain Orffennaf. Yn ystod ei ymweliad tywyswyd y Gweinidog ar daith o gwmpas y safle gan Gyfarwyddwr y Castell; Jac Davies a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth; Non Davies.
Yn ystod y daith cafodd y Gweinidog y cyfle i roi tro ar gem newydd ddigidol sydd yn canolbwyntio ar themâu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal ag arwyddocad y castell a’i safle unigryw yn hanes Cymru. Cafwyd cyfle hefyd i son am y ffordd mae’r Castell yn llwyddo i ddenu ymwelwyr i’r ardal a’i gyfraniad i dwf economaidd y dref.
Yn ystod yr ymweliad bu’r Gweinidog yn son gynllun newydd i hybu cestyll Cymreig gan gynnwys Castell Aberteifi.
Dywedodd y Gweinidog: “Roeddwn wrth fy modd yn gynharach yr wythnos hon i lansio adnodd newydd i ddathlu cestyll a hanes Arglwyddi a Thywysogion Cymru. Mae Castell Aberteifi yn un o 24 castell ochr yn ochr ag abatai a safleoedd hanesyddol eraill sydd yn y llyfryn. Roeddwn wrth fy modd o gael ymweld â’r castell ar ei newydd wedd a gweld ei fod unwaith eto yn ganolog i fywyd yn Aberteifi”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Castell Jac Davies; “Mae’n fraint cael tywys y Gweinidog o amgylch y castell i ddangos y gwaith da sydd yn cael ei wneud yma i hybu’r ecnonomi’n lleol tra’n ymfalchio yn hanes a diwylliant Cymru. Mae’r haf wedi bod yn dymor llewyrchus hyd yma gyda niferoedd sylweddol o bobl, yn ymwelwyr a phobl lleol, nid yn unig yn ymweld â’r castell yn ddyddiol ond hefyd yn mynychu’r arlwy gyda’r nos gan gynnwys cyngerdd cloi Gŵyl Fawr Aberteifi gyda Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies ynghyd a gig gyfoes gyda DJ Huw Stephens, Gwenno Saunders, Omaloma a Serol Serol. Mae trefniadau bellach ar y gweill ar gyfer cyngerdd ddiwedd y mis i godi arian ar gyfer Ysgol Gymraeg newydd ym Mhatagonia pan fydd Côr Telynau’r Castell yn cadw cwmni unwaith eto i Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies!.”