Digwyddiadau lu ar gyfer 2017
Gyda dyfodiad y flwyddyn newydd mae 12 mis prysur a llawn gweithgareddau yn wynebu’r Castell unwaith eto.
Ymysg yr arlwy mae tri diwrnod thema arbennig yn ogystal â’r Ffair Nadolig flynyddol ym mis Rhagfyr.
Cynhelir y diwrnod thema cyntaf sef Diwrnod Canoloesol ddydd Mercher Ebrill 19eg pan fydd y Castell yn dathlu ei wreiddiau canoloesol.
Bydd 2017 yn arbennig hefyd gan bod 820 o flynyddoedd ers marwolaeth yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd, y tywysog a fu’n gyfrifol am adeiladu’r castell carreg cyntaf ar y safle ym 1176 gan gynnal yr eisteddfod gyntaf i ddathlu’r cwblhau’r adeiladu. Bydd y Diwrnod Canoloesol yn cynnwys cerddoriaeth arbennig i gofio am yr Arglwydd Rhys ynghyd ag arddangosfa unigryw.
Ar Ŵyl y Banc, Mai 1af, bydd y Castell yn dathlu cyfnod arall yn ei hanes gan ganolbwyntio ar dreftadaeth Sioraidd - cyfle i wisgo yng ngwisg y cyfnod a mwynhau te prynhawn ac adloniant ar y lawnt.
Ac yna, ddydd Mercher 23ain o Awst bydd y Castell yn dathlu hanes yr Eisteddfod gyda gweithgareddau i nodi cyfraniad arbennig y Castell i hanes Cymru.
Yn ogystal wrth gwrs bydd cyfres o ddigwyddiadau awyr agored yn ystod yr haf wedi eu trefnu mewn partneriaeth gyda Theatr Mwldan gan gynnwys cerddoriaeth fyw a dramâu ynghyd ag ymweliad Grŵp Telynau Ieuenctid yr Amerig ym mis Awst.
Caiff y calendr llawn ei gyhoeddi yn gynnar yn y gwanwyn.