Wedi tymor prysur, fydd castell Aberteifi yn lleihau eu hamserau agor yn ystod y Gaeaf er mwyn canolbwyntio at adnewyddu arddangosfeydd ac ati.
“Rydym am i bobl parhau i ddod yn ôl i gastell Aberteifi. Mae’r amser yma o’r flwyddyn yn rhoi cyfle i edrych at beth i ni’n eu gwneud, gwneud ychydig o waith cynnal a chadw ac edrych at adfywio rhai o’r arddangosfeydd. I ni’n awyddus i glywed beth mae pobl leol am eu gweld yn y castell, mae’n bwysig fod pobl leol yn gweld gwerth y castell. Jac Davies – Cyfarwyddwr y Castell
Fydd y gerddi yn aros yn agored drwy gydol y Gaeaf, dim ond Tŷ Castle Green a’r siop fydd yn cau. Mae’r amserlen newydd i’w weld isod a fydd yn dechrau o ddydd Llun 27ain o Dachwedd tan fis Chwefror.
Dydd Sul, Dydd Llun, Dydd Mawrth – AR GAU (Ty Castle Green a siop) fydd 1176 a’r gerddi yn agored o hyd.
Dydd Mercher – Ddydd Sadwrn AR AGOR (10-4pm)
24ain Rhagfyr – AR GAU
25ain Rhagfyr – AR GAU
26ain Rhagfyr – AR GAU
1af Ionawr – AR GAU
Am wybodaeth pellach, cysylltwch a ni at 01239 615 131 neu ebostiwch [email protected]